04/23/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Sir yn cofio’r Holocost ar Ddiwrnod Rhyngwladol Holocost

ELENI bydd Cyngor Sir Ceredigion, ynghyd â nifer o Awdurdodau Lleol ledled y Deyrnas Unedig, yn goleuo dau o adeiladau mwyaf eiconig tref Aberystwyth i ddangos undod, parch ac anrhydedd i bob dioddefwr hil-laddiad. Rhwng dydd Gwener 22 Ionawr a dydd Iau 28 Ionawr, bydd y bandstand ar lan y môr yn Aberystwyth a chanolfan Alun R Edwards yn cael eu goleuo’n borffor.

Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn ddigwyddiad rhyngwladol a gynhelir bob blwyddyn ar 27 Ionawr. Diben y diwrnod yw annog pawb i gofio’r holl ddioddefwyr hil-laddiad ledled y byd, gan gynnwys anrhydeddu’r chwe miliwn o Iddewon a lofruddiwyd yn ystod yr Holocost, y miliynau o bobl a laddwyd yn sgil erledigaeth y Natsïaid a’r hil-laddiadau sydd wedi digwydd ers hynny yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.

Thema Diwrnod Cofio’r Holocost 2021 yw Bod yn olau yn y tywyllwch. Mae’n annog pawb i fyfyrio ar yr erchyllterau y gall pobl eu gwneud, ond hefyd y ffyrdd y gwrthwynebodd unigolion a chymunedau y tywyllwch hwnnw i ‘fod yn olau’ cyn, yn ystod ac ar ôl hil-laddiad.

Mae Diwrnod Cofio’r Holocost ar gyfer pawb. Bob blwyddyn ledled y DU, mae pobl yn dod at ei gilydd i ddysgu rhagor am y gorffennol a chymryd camau i greu dyfodol mwy diogel. Er na allwn gynnal unrhyw ddigwyddiadau yn bersonol eleni oherwydd y pandemig parhaus, nid yw hyn yn golygu na allwn nodi’r diwrnod eithriadol o bwysig hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen Ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion:

“Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn gyfle i bob un ohonom fyfyrio ar yr erchyllterau a gyflawnwyd yn y gorffennol a’n harwain at ffordd fwy dyngarol o drin ein cyd-ddinasyddion yn y byd, beth bynnag fo’u lliw neu eu cred, yn y dyfodol.”

Mae’n hanfodol codi ymwybyddiaeth a chofio bod yr Holocost wedi bygwth gwareiddiad, ac mae’n rhaid gwrthsefyll hil-laddiad bob dydd.

Mae ein byd yn aml yn teimlo’n frau ac yn fregus ac ni allwn fod yn hunanfodlon. Hyd yn oed yn y DU, mae rhagfarn ac iaith casineb yn bodoli a rhaid i bob un ohonom herio hyn.

Gyda’n gilydd rydym yn dyst i’r rhai a ddioddefodd hil-laddiad ac yn anrhydeddu’r goroeswyr a phawb y newidiwyd eu bywydau y tu hwnt i bob adnabyddiaeth.”

%d bloggers like this: