09/17/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor ‘wedi siomi’ gan ymateb rhannol i gynlluniau creu canolfan troseddwyr

MAE Arweinydd ac uwch aelodau Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi mynegi siom ar ôl cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynigion gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder i sefydlu Canolfan Breswyl newydd i Fenywod yn ne Cymru.

Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM yng Nghymru a Grŵp Diogelu’r Cyhoedd wedi cadarnhau, er nad yw bellach yn ceisio cynnwys Gwesty’r Atlantic ym Mhorthcawl fel safle posibl ar gyfer y ganolfan, fod ganddo ddiddordeb o hyd serch hynny mewn ei sefydlu yn Sunnyside House yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr.

Mewn llythyr at y cyngor, mae’r gwasanaeth yn datgan: “Ar ôl ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid, asesiad pellach o Westy’r Atlantic ac ystyried y newidiadau y byddai eu hangen er mwyn ei wneud yn addas ar gyfer y menywod sy’n agored i niwed y mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gweithio â nhw, penderfynwyd peidio â bwrw ymlaen â chais cynllunio, ac nid yw’r safle bellach yn cael ei ystyried yn opsiwn ar gyfer y ganolfan i droseddwyr benywaidd.”

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David:

“Er fy mod yn gwerthfawrogi’r ffaith bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cytuno y byddai Gwesty’r Atlantic ym Mhorthcawl yn lleoliad anaddas ar gyfer eu canolfan newydd arfaethedig, rwy’n siomedig iawn nad ydynt wedi defnyddio’r cyfle hwn i ddiystyru safle Sunnyside House hefyd. Rwyf wedi cysylltu â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder o’r blaen i wrthwynebu’r bwriad i leoli’r ganolfan newydd yn yr ardal leol, gan ddadlau, er bod yr awdurdod yn deall ac yn cefnogi’r rhesymeg dros sefydlu canolfan o’r fath yn Ne Cymru, mai Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw’r lle anghywir iddo gael ei leoli. Nid yn unig rydym eisoes yn gartref i garchar mwyaf De Cymru, rydym hefyd yn cynnwys unig sefydliad troseddau ieuenctid a chyfleusterau diogelwch canolig Cymru ar gyfer pobl ag anghenion iechyd meddwl cymhleth.

Er gwaethaf hyn, nid yw’r ardal yn derbyn y lefel o adnoddau na chyllid ychwanegol sydd ei hangen i ddarparu’r math o gymorth hanfodol sy’n gysylltiedig â chyfleusterau o’r fath. Rydym eisoes yn delio â materion diogelu risg uchel mewn perthynas â CEM Parc, Tŷ Llidiart a Chlinig Caswell, a byddai cyflwyno’r ganolfan newydd arfaethedig hon yn rhoi straen ychwanegol ar wasanaeth sydd eisoes yn wynebu heriau enfawr o ran adnoddau a’r galw. Byddai cyflwyno Canolfan i Droseddwyr Benywaidd Cymru i’r fwrdeistref sirol ond yn dwysáu hyn ar adeg pan fo’r cyngor eisoes wedi cael ei orfodi i dorri dros £60m o wasanaethau hanfodol.

Rwyf wedi datgan yn flaenorol fod Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr eisoes yn cynnwys mwy na’i chyfran deg o safleoedd rhanbarthol a cenedlaethol ar gyfer pobl ag anghenion cymhleth, ac mae hyn yn dal yn wir. Nid wyf ychwaith yn gweld sut y bydd gosod y ganolfan gyferbyn â phentref llesiant newydd gwerth £23m a llety gwarchod o fudd i breswylwyr sy’n agored i niwed. Byddai cyflwyno niferoedd mawr pellach o bobl sydd angen gofal a chymorth eang yn rhoi pwysau ychwanegol sylweddol ar wasanaethau sydd eisoes ar waith.

Byddai hefyd yn cael effaith ar wasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd, diogelwch cymunedol a phlismona. Rydym yn parhau i wrthwynebu’r syniad y dylid ystyried Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel lleoliad addas ar gyfer y cyfleuster hwn, a byddaf yn galw ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder i ollwng Sunnyside House o’u cynlluniau yn ogystal â Gwesty’r Atlantic.”

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, y Cynghorydd Nicole Burnett:

“Rydym yn llwyr gefnogi’r rhesymeg dros greu Canolfan Breswyl i Droseddwyr Benywaidd Cymru, ond rydym yn parhau i fod o’r farn mai Sunnyside House yw’r lleoliad anghywir ar ei gyfer.

Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr eisoes wedi croesawu mwy na’i chyfran deg o gyfleusterau o’r fath, a byddai gosod y ganolfan yno yn annheg iawn i breswylwyr.

Yn ogystal â chreu mwy o straen gormodol ar adnoddau sy’n bodoli eisoes, mae perygl y bydd yn mynd i groes i fentrau a phartneriaethau parhaus eraill, ac rydym yn llwyr gefnogi galwadau am leoli’r ganolfan mewn lleoliad mwy addas sydd y tu allan i’r fwrdeistref sirol.”

%d bloggers like this: