10/04/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Y Fro dechrau derbyn ceisiadau ar gyfer Cronfa Adnewyddu DU

MAE CYNGOR Bro Morgannwg wedi dechrau derbyn ceisiadau am arian o Gronfa Adnewyddu Cymunedol y Deyrnas Unedig, sewf cynllun £220m i fuddsoddi mewn ardaloed lleol traws y wlad.

Rhaid i weithgareddau’r prosiectau, fydd yn cael eu hariannu gan Lywodraeth y DU, ymwneud ag un o’r pedwar maes blaenoriaeth:

Buddsoddi mewn sgiliau, ar gyfer busnesau lleol, mewn cymunedau a hefyd cefnogi pobl i gael gwaith.

Mae’r gronfa’n rhagflaenydd i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU fydd yn cael ei lansio yn 2022 ac yn cymryd lle Cronfeydd Strwythurol yr UE.

Gan fod 90 y cant o’r arian sydd ar gael drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU yn arian refeniw a dim ond ar gael yn y flwyddyn ariannol hon, dylai prosiectau fod yn seiliedig ar refeniw yn bennaf, neu’n seiliedig ar refeniw yn unig.

Ni chefnogir prosiectau sy’n canolbwyntio’n bennaf ar adeiladu neu adnewyddu adeiladau’n sylweddol, prynu tir neu brynu darnau mawr o offer.

Gall y Cyngor gynnig cymorth i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymgeisio a gofynnir i ymgeiswyr darllen rhagor o wybodaeth ar y wefan yn y lle cyntaf. Gellir cyflwyno ceisiadau drwy wefan y Cyngor a rhaid iddynt ddod i law erbyn y dyddiad cau sef dydd Llun 10 Mai. Bydd gweminar i helpu gyda’r broses ymgeisio yn cael ei gynnal ddydd Gwener 23 Ebrill.

Yna bydd y Cyngor yn cyflwyno cynnig i Lywodraeth y DU cyn cadarnhau prosiectau llwyddiannus ddiwedd mis Gorffennaf. Rhaid eu cyflawni erbyn 31 Mawrth 2022.

Gwahoddir ymgeiswyr o bob rhan o’r Fro, ond rhoddir sgôr fwy ffafriol i brosiectau sydd â phwyslais ar gefnogi cymunedau difreintiedig.

Gall y categori buddsoddi mewn sgiliau gwmpasu hyfforddiant seiliedig ar waith, ailhyfforddi, uwchsgilio neu ailsgilio’r gweithlu neu hyrwyddo cynhwysiant a sgiliau digidol.

Mae enghreifftiau o fuddsoddi mewn busnes lleol yn cynnwys helpu i greu mwy o gyfleoedd swyddi i weithwyr presennol neu newydd, annog busnesau i ddatblygu eu potensial ar gyfer arloesedd a chefnogi mesurau datgarboneiddio.

Gall y categori buddsoddi mewn cymunedau a lle ymwneud ag astudiaethau o ddichonoldeb ar gyfer cyflawni prosiectau sero-net ac ynni lleol, archwilio cyfleoedd i hyrwyddo adfywio a datblygu cymunedol sy’n cael eu harwain gan ddiwylliant, gwella mannau gwyrdd a gwarchod asedau lleol pwysig neu hyrwyddo cysylltedd gwledig.

Gallai cefnogi pobl i gael gwaith gynnwys helpu unigolion i gymryd rhan mewn gwasanaethau lleol sydd ar gael yn yr ardal hon, nodi a mynd i’r afael â rhwystrau posibl at waith, codi dyheadau swyddi, helpu i ennill sgiliau sylfaenol neu werthuso dulliau llwyddiannus i helpu pobl i ddychwelyd i’r gwaith.

 

 

 

%d bloggers like this: