09/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Y Fro yn darparu amrywiaeth o dai hygyrch yn rhan o ddatblygiad newydd

MAE Cyngor Bro Morgannwg wedi cwblhau datblygiad tai cymdeithasol gwerthg £2.3 miliwn sy’n cynnwys pum cartref a adeiladwyd yn benodol ar gyfer trigolion anabl.

Mae Clos Holm View yn cynnwys cyfanswm o 11 o gartrefi, ac mae pob un ohonynt wedi’u gorffen i safonau rhagorol.

Mae’r safle yn y Barri yn cynnwys un tŷ tair ystafell wely, pum tŷ dwy ystafell wely, un tŷ tair ystafell wely wedi’i addasu, dau fyngalo pedair ystafell wely wedi’u haddasu, un byngalo tair ystafell wely wedi’i addasu ac un byngalo dwy ystafell wely wedi’i addasu.

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o brosiectau sydd â’r nod o roi hwb i stoc tai’r Cyngor ac mae’n dilyn cwblhau datblygiad 28 cartref yng Nghwrt Aberhonddu yn y dref y llynedd.

Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth:

“Mae’r angen am dai cyngor yn cynyddu felly mae’n hanfodol ein bod yn darparu ar gyfer hynny drwy gynnig eiddo o’r ansawdd orau.

“Mae bron hanner y cartrefi hyn wedi’u haddasu’n arbennig i ateb anghenion trigolion anabl.

“Mae’r tai hyn yn cael eu hadeiladu i’r safon uchaf a byddant yn creu cartrefi modern cyfforddus i deuluoedd.

Mae rhai ohonynt yn hygyrch i gadeiriau olwyn neu wedi’u cynllunio’n arbennig i ddarparu ar gyfer tenantiaid ag anghenion cymhleth.

Dyluniwyd y cynllun gan Chamberlain Moss King Architects Ltd a chafodd ei adeiladu gan Pendragon Design and Build Ltd.
Mae pob cartref wedi’i adeiladu i Ofynion Ansawdd Datblygu (DQR) Llywodraeth Cymru, safonau Cartrefi Gydol Oes, Safonau Diogelu drwy Ddylunio a Safonau Visibly Better yr RNIB.

Ariannwyd y prosiect yn rhannol gan Grant Tai Fforddiadwy gan Lywodraeth Cymru a chefnogodd nifer o brentisiaethau, cyfleoedd profiad gwaith â thâl a rhai di-dâl a mentrau budd cymunedol.

%d bloggers like this: