03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Y Fro yn egluro sefyllfa dwy ysgol feithrin ym Mhenarth

MAE Cyngor Bro Morgannwg wedi mynd ati i egluro sefyllfa ysgolion meithrin Bute Cottage a Chogan ym Mhenarth yn dilyn dryswch lleol ynghylch eu dyfodol.

Cymeradwywyd cynlluniau ar gyfer yr uno hyn mewn cyfarfod o Gabinet y Cyngor ddydd Llun, lle ailadroddwyd na fydd hyn yn cael unrhyw effaith ar ble mae disgyblion yn cael eu haddysgu a chan bwy, gan y bydd y ddwy feithrinfa yn parhau i weithredu o’u safle presennol gyda’r un staff.

Mae’r Cyngor yn pwysleisio, er gwaethaf awgrymiadau i’r gwrthwyneb, bydd y ddwy feithrinfa yn aros yn eu lleoliadau presennol ac ni fu erioed yn fwriad cau, symud na chael gwared ar y safleoedd hyn.

O dan y cynigion, sy’n ymwneud ag Arweinyddiaeth a Llywodraethu, bydd Meithrinfa Bute Cottage yn uno ag Ysgol Gynradd Evenlode a Meithrinfa Cogan yn ymuno ag Ysgol Gynradd Cogan o fis Medi ymlaen.

Dywedodd Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau Cyngor Bro Morgannwg, Paula Ham:

“O dan y cynlluniau hyn bydd Meithrinfa Bute Cottage a Meithrinfa Cogan yn aros ar eu safleoedd presennol. Nid oes unrhyw gynlluniau i adleoli’r ysgolion a bydd y staff presennol yn aros yn eu swyddi.

“Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae’r Cyngor wedi ceisio mabwysiadu model ysgol gynradd sy’n darparu ar gyfer plant rhwng tair ac 11 oed.  Mae hyn wedi golygu uno ysgolion eraill mewn mannau eraill yn y Fro ac mae’n gadael Bute Cottage a Chogan fel yr unig ddwy ysgol feithrin annibynnol yn y Sir.

“Mae’r uno’n ymwneud â llywodraethu ac arweinyddiaeth yr ysgolion. Mae cam o’r fath yn creu taith addysgol fwy cyfannol i ddisgyblion, cyfnod pontio mwy llyfn o ddarpariaeth feithrin i ddarpariaeth gynradd ac mae wedi profi’n llwyddiannus mewn lleoliadau ysgol eraill.  Mae hefyd yn symleiddio’r cyfathrebu rhwng rhieni, gofalwyr a staff gan greu un pwynt cyswllt trwy bob cyfnod o addysg gynradd.

“Mae’n caniatáu un strategaeth, un set o bolisïau ac ethos ar draws pob grŵp blwyddyn yn ogystal â chynnig y cyfle i wneud arbedion effeithlonrwydd y gellir eu buddsoddi’n ôl i mewn i ysgolion.

“Mae’r Cyngor wedi ymgynghori’n eang ar y mater hwn ac wedi ymateb i bwyntiau a wnaed gan y gymuned.  Mae copi o’r adroddiad ymgynghori ar gael ar wefan y Cyngor, sy’n nodi’n fanwl faint o ymgysylltu â rhanddeiliaid sydd wedi digwydd.”

%d bloggers like this: