04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor yn annog busnesau i baratoi ar gyfer newid mawr mewn labelu bwyd

O 1 Hydref 2021, bydd y gofynion ar gyfer labelu bwyd wedi’u pecynnu ymlaen llaw i’w gwerthu’n uniongyrchol (Pre packed for Direct Sale (PPDS) yn newid yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Bydd y labelu newydd yn helpu i amddiffyn defnyddwyr trwy ddarparu gwybodaeth alergen a allai achub bywyd ar y pecynnu. Bydd yn ofynnol i unrhyw fusnes bwyd sy’n cynhyrchu bwyd PPDS ei labelu gydag enw’r bwyd a rhestr gynhwysion lawn, gyda chynhwysion alergenig yn cael eu pwysleisio yn y rhestr.

Mae angen i fusnesau wirio ac oes angen labelu PPDS ar eu cynhyrchion a’r hyn y mae angen iddynt ei wneud i gydymffurfio â’r rheolau newydd.

Bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA) yn cynnal webinar ar ddydd Mercher 4 Awst 2.00yh – 4.00yh ar gyfer busnesau bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn y webinar hon bydd yr FSA yn:

  • darparu cefndir i’r newidiadau labelu alergenau newydd, a elwir hefyd yn Natasha’s Law.
  • egluro newidiadau labelu alergenau
  • helpu busnesau i nodi sut y gallai effeithio arnynt a’r hyn y mae angen iddynt ei wneud cydymffurfio
  • rhannu arweiniad ac offer i gefnogi busnesau
  • ateb unrhyw gwestiynau

Gall busnesau gofrestru ar gyfer y webinar yma: https://ppdsbusiness.fsaevents.co.uk/home. Peidiwch â phoeni os na allwch fynychu’r digwyddiad, gan fydd y webinar lawn ar gael ar wefan yr FSA wythnos ar ôl y digwyddiad.

Gwyliwch y fideo byr hwn i gael cipolwg cyflym ar y newidiadau https://youtu.be/alpTur7hLik neu am ragor o wybodaeth ac adnoddau ewch i: https://www.food.gov.uk/cy/canllawiau-ar-gyfer-busnesau/newidiadau-ppds

%d bloggers like this: