04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor yn cryfhau’r tîm rheng flaen i gefnogi rhagor o bobl ddiamddiffyn

MAE Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cryfhau tîm cymunedol rheng flaen sy’n canolbwyntio ar gefnogi pobl sy’n profi cyfnod anodd yn eu bywydau.

Bydd yr wyth Cydlynydd Ardal Leol newydd yn ymuno â’r tîm presennol o chwech i helpu i gefnogi rhagor o bobl a chymunedau ar draws y fwrdeistref sirol.

Mae Cydlynwyr Ardaloedd Lleol yn gweithio gyda’r rheini sydd mewn perygl o fynd trwy argyfwng yn eu bywydau neu’n helpu pobl i wella os oes argyfwng eisoes wedi digwydd. Mae’n cynnwys helpu pobl sy’n hŷn, pobl sydd ag anableddau corfforol neu feddyliol, neu bobl sy’n teimlo’n ynysig. Maen nhw’n gweithio gydag unrhyw un sydd angen cymorth, yn ‘cerdded ochr yn ochr’ â nhw ac yn eu helpu i ddod o hyd i atebion yn y gymuned, yn hytrach na dibynnu ar wasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol.

Does dim system atgyfeirio ffurfiol a gall preswylwyr gysylltu â’u Cydlynydd Ardal Leol yn uniongyrchol, neu gael eu cyflwyno gan ffrindiau, teulu, cymdogion, gwasanaethau statudol neu sefydliadau cymunedol. Does dim cyfyngiad amser i’r gefnogaeth ond mae’n ceisio osgoi dibyniaeth ac mae wedi’i theilwra i anghenion person.

Yn ogystal â chefnogi pobl unigol, mae Cydlynwyr Ardaloedd Lleol yn gweithio’n uniongyrchol gyda sefydliadau cymunedol a grwpiau gwirfoddol i wella cymorth yn y gymuned, gan leihau’r ddibyniaeth ar wasanaethau mwy traddodiadol.

Meddai’r Cynghorydd Peter Richards, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ac Iechyd Cyngor Castell-nedd Port Talbot:

“Mae Cydlynwyr Ardaloedd Lleol yn chwarae rôl allweddol wrth helpu pobl ddiamddiffyn yn y gymuned, ac rwyf yn falch iawn ein bod wedi gallu ehangu ar y tîm hwn.

“Maent yn cynnig help i bobl yn gynnar er mwyn osgoi rhag bod angen cefnogaeth fwy dwys gan y gwasanaethau iechyd neu gymdeithasol yn ddiweddarach. Drwy weithio’n agosach gyda phobl a’u teuluoedd, gallant helpu pobl i ailsefydlu a’u cysylltu â chymorth allweddol yn eu cymunedau lleol.

“Hoffem sicrhau bod gan unrhyw un sy’n teimlo’n ddiamddiffyn neu’n profi argyfwng rywle i droi ato am gymorth a’i fod yn cael y cyfle i gael bywyd gwell.”

%d bloggers like this: