03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor yn cwblhau cynllun arbed ynni gwerth £2.4 miliwn

MAE prosiect arbed ynni gwerth £2.4 miliwn wedi’i gyflwyno yn adeiladau allweddol Cyngor Sir Caerfyrddin wrth i’r cyngor gymryd camau tuag at gyflawni ei darged di-garbon ar gyfer 2030.

Mae’r cyngor wedi bod yn gweithio gydag Ameresco, cwmni ar fframwaith Re:Fit y sector cyhoeddus sy’n arbenigo mewn effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy, i wella adeiladau awdurdod lleol, ysgol ac ysbyty ar draws Cymru a Lleogr.

Mae ystod eang o fesurau arbed ynni wedi’u gweithredu yn adeiladau’r cyngor, gan gynnwys paneli solar ffotofoltäig, goleuadau LED, rheolyddion goleuo, inswleiddio pibellau, gwella ffabrig adeiladau, uwchraddio boeleri a thechnoleg arbed dŵr a gwres.

Bydd aelodau o’r cyhoedd yn gweld enghreifftiau ar draws canolfannau hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin lle mae gorchuddion pŵl yn cadw gwres i sicrhau costau cynnal is, ac yng Nghaerfyrddin lle mae paneli haul mawr yn wedi’u gosod ar y to.

Drwy osod seilwaith newydd yn lle seilwaith oedd yn heneiddio ac optimeiddio’r offer presennol, bydd y prosiect yn sicrhau arbedion ynni blynyddol o dros ddwy filiwn cilowat- sy’n cyfateb i tua £315,726 mewn arbedion cost blynyddol a gostyngiad blynyddol o 675 tunnell o CO2.

Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol sy’n gyfrifol am newid yn yr hinsawdd, y bydd y buddsoddiad yn lleihau allyriadau carbon yr awdurdod a’i ddefnydd o ynni yn sylweddol, ac yn cynyddu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy.

“Mae gweithio gydag Ameresco wedi ein galluogi i gyflymu’r broses o gyflwyno effeithlonrwydd ynni mewn modd mwy cynhwysfawr ac yn fwy cyflym nag y gellid ei gyflawni gan ddefnyddio adnoddau mewnol cyfyngedig,” meddai. “Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu camau pellach i’n helpu i ddod yn awdurdod lleol carbon sero-net erbyn 2030.”

Ychwanegodd Britta MacIntosh, uwch is-lywydd Ameresco: “Mae ein prosiect gyda Chyngor Sir Caerfyrddin yn dangos ein hymrwymiad parhaus i ddarparu atebion cynaliadwy ledled y byd.

“Mae nodau blaengar y cyngor ynghylch newid yn yr hinsawdd yn darparu model i gymunedau sy’n ymdrechu i ddod yn lanach ac yn fwy effeithlon, ac rydym wrth ein bodd yn gweld cynlluniau o’r fath yn dwyn ffrwyth.”

Y llynedd, Cyngor Sir Caerfyrddin oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gyhoeddi cynllun gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd yn manylu ar sut y bydd yn gweithio tuag at ddod yn garbon sero-net erbyn 2030, ac yn 2019 daeth yn un o’r cynghorau cyntaf yn y DU i ddatgan argyfwng hinsawdd.

Mae’r cyngor yn caffael ei holl drydan o ffynonellau ynni adnewyddadwy ac yn sicrhau bod pob prosiect adeiladu mawr newydd yn ymgorffori ynni adnewyddadwy, gan gynnwys paneli haul, pympiau sy’n codi gwres o’r ddaear a’r awyr lle y bo’n briodol.

Mae ymdrechion eraill i leihau allyriadau carbon yn cynnwys newid goleuadau stryd yn LED ynni isel a fflyd wedi’i huwchraddio gan gynnwys ceir trydan a cherbydau sbwriel a graeanu sy’n defnyddio ynni’n fwy effeithlon.

Mae’r cyngor hefyd yn gweithio gyda chyrff cyhoeddus eraill i sicrhau newid ehangach, gan archwilio cyfleoedd i blannu coed a chynhyrchu ynni adnewyddadwy ar dir sy’n eiddo i’r cyngor.

I gael rhagor o wybodaeth am ymrwymiad y cyngor i garbon sero-net a’r ffyrdd ymarferol y mae’r cyngor yn arbed ynni, ewch i www.sirgar.llyw.cymru

%d bloggers like this: