04/23/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor yn cyflwyno rhybudd i dynnu’n ôl o ERW

MAE’r Bwrdd hefyd wedi cytuno i ystyried ôl troed newydd ar gyfer y gwasanaethau gwella ysgolion a fyddai’n cyd-fynd â Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

Dywedodd y Bwrdd Gweithredol ei fod yn amserol i adolygu trefniadau ERW, gan gydnabod ar yr un pryd y gwelliannau o ran staffio a threfniadaeth yn rhanbarth ERW dros y 12 mis diwethaf.

Mae tîm craidd rhanbarth ERW hefyd wedi cael ei gydnabod gan y Bwrdd Gweithredol am ei gymorth gwerthfawr i ysgolion Sir Gaerfyrddin.

Gan weithredu i ddarparu gwasanaeth sy’n cynorthwyo ysgolion i godi safonau, mae consortiwm presennol ERW yn wasanaeth addysg ar y cyd i chwech o awdurdodau lleol – Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys ac Abertawe.

Mae Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn cynnwys pedwar o’r awdurdodau lleol hyn – Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.

Sir Gaerfyrddin yw’r ail awdurdod lleol i gyflwyno hysbysiad i dynnu’n ôl o ERW, yn dilyn Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Er bod ERW wedi cyflawni llawer o bethau cadarnhaol dros y blynyddoedd, mae ei ôl troed daearyddol presennol yn fawr ac wedi ychwanegu at yr heriau a achoswyd gan newidiadau yn arweinyddiaeth wleidyddol a rheolaethol ERW.

“Mae hyn yn golygu ei bod yn bryd ystyried ôl troed diwygiedig i ERW wrth i ni barhau’n ymrwymedig i weithio’n rhanbarthol gan ganolbwyntio ar yr un pryd ar y canlyniad gorau posibl i ysgolion, disgyblion a phobl ifanc Sir Gaerfyrddin.

“Mae model Dinas-ranbarth Bae Abertawe eisoes yn ei le ar gyfer cynllunio a chyflwyno Bargen Ddinesig Bae Abertawe, felly byddwn yn mynd ati i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol partner ar archwilio’r potensial i ERW efelychu’r ôl-troed hwn.”

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg: “Er nad oes penderfyniad terfynol wedi’i wneud ar ôl troed diwygiedig ERW, mae prosiectau eraill yn ogystal â rhaglen y Fargen Ddinesig yn dangos ein hymrwymiad i weithio’n rhanbarthol pan fo hynny’n cynnig manteision i gymunedau Sir Gaerfyrddin.

“Yn ogystal â thrafodaethau pellach â phartneriaid ar yr ôl-troed diwygiedig sydd bellach yn cael ei ystyried, byddwn hefyd yn gweithio i sicrhau bod unrhyw newid yn y dyfodol mor ddi-dor a chadarn â phosibl, gan ddiogelu staff yn strwythur presennol ERW.

“Byddwn yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i staff a phartneriaid.”

%d bloggers like this: