04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor yn cymeradwyo’r gyllideb ar gyfer 2021-2022

MAE cyllideb Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod wedi cael ei chymeradwyo gan Gynghorwyr Sir yn ystod cyfarfod rhithiol o’r Cyngor a gynhaliwyd ddydd Gwener 05 Mawrth 2021.

Roedd hyn yn seiliedig ar y ffaith y bydd Cyngor Sir Ceredigion yn cael cynnydd o 2% yn unig o Grant Refeniw Llywodraeth Cymru. Dyma’r setliad isaf yng Nghymru ac mae’n cymharu â’r gyfradd gyfartalog o 3.8% ledled Cymru.

O ganlyniad, ystyriodd a chymeradwyodd y Cynghorwyr gynnydd o 3.5% yng nghyfradd treth y cyngor. Dyma’r swm isaf a gynigiwyd ers blynyddoedd lawer. Mae Treth y Cyngor cyfartalog y Cyngor (Band D) yn is na’r lefel gyfartalog ledled Cymru. Bydd y cynnydd yn golygu y bydd eiddo Band D yng Ngheredigion yn talu £1,412.59 o dreth y cyngor ar gyfartaledd bob blwyddyn, cynnydd o lai na £1 yr wythnos.

Mae’r Cyngor yn wynebu pwysau chwyddiant blynyddol o 5% i 6% sydd wedi bod yn lefel gyson ers sawl blwyddyn. Mae hyn yn ymwneud yn bennaf â phwysau ar wasanaethau rheng flaen megis Gofal Cymdeithasol. Caiff hyn ei ysgogi gan bwysau cynyddol yn ogystal â ffactorau allanol megis chwyddiant y Cyflog Byw, nwyddau a gwasanaethau.

Daw’r cynnydd wrth i’r Cyngor barhau i wynebu cyfyngiadau ariannol difrifol o ganlyniad i doriadau yn y gyllideb gan y llywodraeth ganolog. Gan mai dyma yw’r rhan fwyaf o gyllideb y Cyngor, mae angen gwneud arbedion yn ogystal â chyflwyno cynnydd mewn treth.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae cyllid craidd annigonol nad yw’n cynyddu i ddiwallu’r pwysau yn golygu y bydd yn rhaid i’r Cyngor wneud arbedion. Cymeradwyodd y Cyngor i gynyddu cyfradd treth y cyngor ar lefel is na’r arfer. Byddai’r cynnydd yn bodloni’r gofynion cynyddol a roddir ar gyllidebau gofal cymdeithasol na allwn eu hosgoi.”

Bydd y cynnydd cyffredinol yng nghyfradd treth y cyngor yn cael ei bennu gan dair elfen allweddol: treth y Cyngor Sir, praesept Cynghorau Tref a Chymuned a phraesept yr Heddlu. Mae’r cynnydd a bennwyd gan yr Heddlu a Chynghorau Tref a Chymuned yn arwain at gynnydd cyfunol sydd eto i’w gyfrifo.

Mae’r Cyngor yn parhau i ddarparu ystod lawn o wasanaethau yn gyson sydd wedi’u barnu naill ai’n Rhagorol, yn Dda Iawn neu’n Dda.

Ceir rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r Gyllideb ar gyfer 2021-2022 ar wefan Cyngor Sir Ceredigion: http://www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/cynghorwyr-a-phwyllgorau/pwyllgorau/cyngor/

%d bloggers like this: