03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor yn diweddaru cynlluniau gyfer cyfleusterau gofal plant cyfrwng Cymraeg newydd

MAE cynlluniau i ddarparu pedwar hwb gofal plant newydd ym Melin Ifan Ddu, Betws, Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl fel rhan o fuddsoddiad o £2.6m i addysg Gymraeg yn casglu momentwm.

Dywedodd Lindsay Harvey, Cyfarwyddwr Addysg a Chymorth i Deuluoedd:

“Mae’r cynlluniau hyn yn dangos ymrwymiad parhaus y cyngor tuag at y nifer cynyddol o siaradwyr Cymraeg yn y fwrdeistref sirol, ac i annog rhagor o dwf yn yr iaith Gymraeg.”

Bydd gwaith yn dechrau yn fuan ar adeiladu’r cyntaf o’r hybiau newydd, sydd wedi’i leoli ar dir oddi ar Ystad Ddiwydiannol Isfryn ym Melin Ifan Ddu.

Wedi’i ddylunio i wasanaethu Cwm Ogwr gyda digon o le i gyfanswm o 34 o blant hyd at bump oed, bydd yr adeilad un llawr yn gweithredu rhwng 7am-7pm ac yn cynnwys man chwarae newydd, ystafelloedd tawel, cyfleusterau storio, swyddfeydd a maes parcio gyda lle i hyd at saith cerbyd.

Bydd yr ardal i’r tu blaen ac ochr yr adeilad yn cael ei dirlunio hefyd, ac yn cynnwys cyfleusterau chwarae meddal dan ganopi a fydd yn rhoi cysgod a lloches. Disgwylir i’r gwaith ar hwb gofal plant Melin Ifan Ddu gael ei gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2021.

Ym Metws, mae paratoadau yn mynd rhagddynt i sefydlu’r ail hwb gofal plant ar safle adfeiliedig cyn-Glwb Bechgyn a Genethod Betws, a fydd yn cael ei ddymchwel i wneud lle ar gyfer y ganolfan newydd.

Wedi dweud hynny, bu’n rhaid gohirio dechrau’r gwaith tan ddiwedd mis Awst ar ôl i arolwg ecoleg ddarganfod bod adar yn nythu ar y safle. O ganlyniad, mae dyddiad cwblhau’r cyfleuster wedi’i symud i fis Mawrth 2022.

Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru mewn lle ar gyfer y ddau hwb gofal plant cyfrwng Cymraeg sydd ar ôl, mae gwerthusiadau o opsiynau yn parhau i gael eu cynnal ar safleoedd posibl ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl.

 

%d bloggers like this: