MAE Cyngor Bro Morgannwg wedi dechrau cynllunio at ddyfodol Pafiliwn Pier Penarth a hoffai nawr i eraill rannu eu barn ar sut y gall weithredu fel gofod celfyddydol a chymunedol.
Ar ôl i’r gweithredwyr blaenorol, Penarth Arts and Crafts Ltd, ildio eu prydles, camodd y Cyngor i’r adwy i gymryd yr awenau. Erbyn hyn, mae’r Awdurdod yn canolbwyntio ar y bennod gyffrous nesaf yr adeilad eiconig hwn, a fydd yn cael ei gadw fel cyfleuster cymunedol.
Mae gwaith glanhau a chynnal a chadw helaeth eisoes ar y gweill a hefyd y gwaith i sicrhau y gall Cwmni Arlwyo’r Cyngor, Big Fresh, weithredu caffi o’r pafiliwn eisoes yn mynd rhagddo a bydd yn agor cyn bo hir.
Mae sgwrs gyhoeddus wedi ei lansio am y ffyrdd posibl o ddefnyddio’r adeilad yn y dyfodol.
Gall y rhai sy’n dymuno rhannu eu barn wneud hynny drwy gwblhau arolwg ar wefan y Cyngor neu drwy ffonio Canolfan Gyswllt Un Fro ar 01446 700111.
Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant:
“Ar ôl cymryd awenau pafiliwn Pier Penarth yn ddiweddar, aethom ati’n gyflym i asesu cyflwr yr adeilad, trefnu gwaith atgyweirio a threfnu ei lanhau’n drylwyr.
“Mae hwn yn gyfle cyffrous i ailsefydlu’r pafiliwn fel canolbwynt ym Mhenarth, canolbwynt i’r celfyddydau a gofod y gall y gymuned gyfan ei fwynhau.
“Mae gennym eisoes nifer o syniadau cyffrous ar gyfer sut gallwn ni gyflawni hynny ond byddem hefyd wrth ein boddau’n clywed awgrymiadau gan breswylwyr wrth i ni ddechrau ar gyfnod newydd i’r adeilad hanesyddol hwn.”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m