03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor yn gweithredu’n gyflym i gael gwared graffiti sarhaus

MAE Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymryd camau cyflym i gael gwared ar graffiti sarhaus a ymddangosodd dros nos ar wal yn Sarn.

Yn wreiddiol, roedd neges ar y wal yn nodi ‘Diolch GIG a’r gweithwyr allweddol’, ond cafodd ei newid i gynnwys gair rheg sarhaus.

Roedd trigolion lleol yn gyflym i hysbysu’r cyngor, ac ymwelodd y tîm Strydoedd Glanach â’r lleoliad i gael gwared ar y geiriau annymunol. Mae trefniadau bellach yn cael eu gwneud i’r wal gael ei phaentio’n llwyr, ac mae’r cyngor yn trafod â sefydliadau lleol i weld a ellir gosod teyrnged newydd yno.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet dros Gymunedau:

“Pan ystyriwch sut mae staff iechyd a gofal cymdeithasol a gweithwyr allweddol eraill yn gwneud popeth o fewn eu gallu yn ystod y pandemig coronafeirws, mae’n anodd credu y gallai rhywun fod mor ddwl â phaentio rhywbeth fel hyn.

“Mae’r ffaith bod y gweithwyr hyn yn gosod eu hunain mewn perygl personol mawr o ddod i gysylltiad â’r feirws wrth ymgymryd â gwaith o’r fath yn gwneud y sylwadau hyd yn oed yn fwy sarhaus.

“Hoffwn ddiolch i dîm Strydoedd Glanach y cyngor am weithredu mor gyflym i fynd i’r afael â’r mater hwn. Roedd y sylw ffiaidd hwn yn falltod ar y gymdogaeth, ac yn sicr nid yw’n cynrychioli teimladau pobl Sarn am yr ymdrechion y mae ein GIG a’r gweithwyr allweddol yn parhau i’w gwneud.”

%d bloggers like this: