04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor yn helpu creu mwy o gartrefi yn Sir Ddinbych

MAE mwy na 1,000 o gartrefi ychwanegol wedi cael eu creu, neu’n cael eu defnyddio unwaith eto dros y pum mlynedd diwethaf yn Sir Ddinbych.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi helpu i ddarparu 394 o dai fforddiadwy ychwanegol, gan weithio mewn partneriaeth i ddatblygu dau gyfleuster gofal ychwanegol gan ddarparu mwy na 100 o gartrefi, a chyflwyno 34 o dai cyngor ychwanegol, tra bod 695 o eiddo gwag bellach yn cael eu defnyddio eto.

Mae eiddo ychwanegol wedi cael eu darparu mewn cymunedau ar draws Sir Ddinbych, yn cynnwys Y Rhyl, Prestatyn, Dyserth, Rhuddlan, Cefn Meiriadog, Trefnant, Gallt Melyd, Dinbych, Rhuthun, Gellifor, Llanfair DC, Llangollen, Corwen a Llandrillo, ac mae gwaith wedi dechrau ar y tai cyngor newydd cyntaf i gael eu dylunio a’u hadeiladu yn ardal Sir Ddinbych ers 30 o flynyddoedd.

Gwnaed gwaith y Cyngor o dan flaenoriaeth Tai fel rhan o’i Gynllun Corfforaethol 2017-2022, gan osod cyfeiriad a chwmpas gwaith ar gyfer yr awdurdod ar gyfer y pum mlynedd diwethaf.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau’r Cyngor:

“Mae’r Cyngor wedi gwneud ystod eang o waith yn gwella a chreu tai ar gyfer anghenion ein preswylwyr.

“Fe wnaethom osod targed uchelgeisiol i’n hunain o dan ein blaenoriaeth Tai ac rydym wedi rhagori ar nifer o’r rhain gan helpu i sicrhau bod yna fwy o gartrefi ar draws y sir i’n preswylwyr.

“Mae hyn yn cynnwys cychwyn gweithio ar y tai cyngor newydd cyntaf i gael eu dylunio a’u hadeiladu yn ardal Sir Ddinbych ers 30 mlynedd. Fel Cyngor, rydym ni’n cydnabod yr angen i sicrhau bod tai ar gael i fodloni anghenion preswylwyr Sir Ddinbych, ac mae tai fforddiadwy yn rhan fawr o hyn, felly fe allwn ni gadw a denu pobl ifanc i fyw yn yr ardal.

“Mae’r tai fforddiadwy a grëwyd yn gymysgedd o dai cymdeithasol, rhentu canolradd a pherchnogaeth cartrefi drwy opsiynau ecwiti a rennir, rhentu i berchnogi a datblygiadau preifat”.

Mae dau gyfleuster gofal ychwanegol wedi cael eu datblygu mewn partneriaeth gyda Grŵp Cynefin yn Awel y Dyffryn, Dinbych, a fydd yn agor ym mis Chwefror eleni, a Llys Awelon, Rhuthun, a fydd yn agor y flwyddyn nesaf.

Yn y datblygiadau yma, fe fydd yna 70 o gartrefi hunangynhwysol yn Ninbych, a 35 ohonynt yn Rhuthun, gan roi cydbwysedd i breswylwyr rhwng byw gartref a bod â gofal ymroddedig ar y safle os bydd angen.

Mae datblygiadau pellach o dai cyngor newydd sydd yn defnyddio ynni’n effeithlon ar waith yn Ninbych, Dyserth a Phrestatyn. Mae disgwyl i 45 eiddo newydd gael eu cwblhau eleni, a bydd gwaith yn dechrau ar 59 o dai cyngor newydd arall yn ystod 2022.

Mae’r Cyngor wedi cyflwyno nifer o welliannau i gartrefi tenantiaid, yn cynnwys gosod 1,100 o systemau gwresogi newydd, 465 o doeon newydd, 325 o ffenestri newydd, 125 o bympiau gwres yr awyr, a 775 o geginau ac ystafelloedd ymolchi, tra bod 2,550 wedi cael eu paentio ar y tu allan.

Gwariwyd £2 filiwn ar addasiadau i bobl anabl a buddsoddwyd £1.9 miliwn mewn gwella ystadau a chymdogaethau, gan gynnwys creu 17 o fannau chwarae newydd.

Mae math arall o waith yn rhan o’r flaenoriaeth Tai yn cynnwys ailsefydlu 20 o deuluoedd o Syria yn llwyddiannus o dan Gynllun Ailsefydlu’r Deyrnas Unedig.

Mae’r Cyngor wedi cysylltu â pherchnogion cartrefi gwag ac wedi eu hannog i adnewyddu neu wedi eu paru gyda datblygwyr, gyda’r bwriad o allu defnyddio’r eiddo eto ar y farchnad agored.

Mae cyfanswm o 695 eiddo gwag bellach yn cael eu defnyddio eto, ac fe fydd ffigurau ar gyfer 2021/22 yn cael eu hychwanegu at y rhain, gan ragori ar darged y Cyngor o 500 rhwng 2017 a 2022

Mae’r Cyngor wedi lansio ei Strategaeth Dai a Digartrefedd er mwyn cydlynu ei waith i sicrhau fod pawb yn cael eu cefnogi gyda balchder i fyw mewn cartrefi sydd yn bodloni eu hanghenion ac i roi terfyn ar ddigartrefedd yn Sir Ddinbych.

Mae nodau’r strategaeth yn cynnwys darparu mwy o dai, sy’n cynnwys galluogi’r farchnad agored hefyd, yn ogystal â darparu opsiynau tai fforddiadwy, sicrhau tai o ansawdd dda, cefnogi pobl gyda’u problemau tai, mynd i’r afael â digartrefedd a chefnogi cymunedau.

Mae hyn yn cynnwys datblygu ein dull i ddarparu hyd yn oed mwy o lety mewn argyfwng a dros dro gyda chefnogaeth ar y safle sydd yn seiliedig ar bedair elfen hanfodol, sef cefnogaeth, cynllunio, adeiladu a thrawsnewid, gyda ffocws ar ymyrryd yn gynnar er mwyn atal digartrefedd, gyda model o ail-gartrefu’n gyflym yn ganolog.

Dywedodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol:

“Mae cefnogi’r gwaith o greu cymaint o gartrefi newydd wedi golygu llawer iawn o waith i’w gyflawni ac mae wedi golygu cynllunio ariannol cadarn. Rydym wedi manteisio ar ystod eang o grantiau cyllid ac mae tai fforddiadwy wedi eu hadeiladu gan ddatblygwyr preifat ac mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gyda’r Cyngor yn rheoli’r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol, sydd wedi galluogi adeiladu’r rhan fwyaf o gartrefi fforddiadwy yn y sir.

“Fe fyddwn ni’n parhau i adeiladu ar y llwyddiant yma a darparu mwy o gartrefi fforddiadwy yn ein cymunedau sydd yn rhan o’n gwaith parhaus i gadw mwy o bobl ifanc yn Sir Ddinbych yn ogystal â sicrhau bod yna ddigon o dai ar gyfer anghenion ein holl breswylwyr.”

%d bloggers like this: