BYDD Cynhadledd Flynyddol 2020 Plaid Cymru yn cael ei chynnal yn ddigidol eleni oherwydd argyfwng COVID, mae’r blaid wedi cadarnhau.
Er gwaethaf y cyfyngiadau Plaid Cymru yn dweud eu bod yn “arloesi” ac yn barod i groesawu aelodau a chefnogwyr ar-lein ar gyfer rhaglen gynhadledd lawn cyn Etholiadau Senedd 2021
Bydd dyddiadau gwreiddiol y gynhadledd, 2il a 3ydd o Hydref, yn cael eu cadw, gyda gweithgareddau trwy gydol yr wythnos cyn y gynhadledd ddigidol ei hun.
Nododd y Blaid y byddai’r gynhadledd yn “llawn areithiau, trafodaethau, sesiynau ymylol, a digwyddiadau cymdeithasol” gyda rhaglen lawn yn cael ei chyhoeddi’n fuan.
Meddai llefarydd ar ran Plaid Cymru,
“Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi y byddwn ni’n cynnal ein Cynhadledd Flynyddol yn ddigidol eleni. Er ein bod ni i gyd yn siomedig na fyddwn ni’n gallu cwrdd wyneb yn wyneb, rydyn ni wrth ein bodd o gadarnhau, beth bynnag yw’r sefyllfa gyda Cofid-19, byddwn yn gallu dod at ein gilydd ar-lein.
“Dyma ddangos ein bod ni fel Plaid yn arloesi, yn gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol, ac yn addasu i’r heriau sy’n parhau i’n wynebu ni yn sgil Cofid-19.
“Gall aelodau, cefnogwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb yn yr hyn sydd gan y blaid i’w gynnig edrych ymlaen at gynhadledd gyffrous llawn areithiau, trafodaethau, sesiynau ymylol, ac wrth gwrs digwyddiadau cymdeithasol. Gyda llai na blwyddyn i fynd tan etholiadau’r Senedd, bydd ein cynhadledd eleni y gorau eto gan ddangos bod Plaid Cymru, o dan arweinyddiaeth Adam Price, yn barod i Lywodraethu ac yn barod i roi ar waith y newid sydd angen i ni ei weld yng Nghymru.”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m