04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cynigion ar gyfer Ysgol Plas Brondyffryn

MAE cynigion yn cael eu paratoi ar gyfer cyfleusterau newydd yn Ysgol Plas Brondyffryn yn Ninbych, sy’n darparu ar gyfer disgyblion sydd â Chyflyrau Sbectrwm Awtistiaeth o 3-19 oed.

Gallai’r cynigion fod yn rhan o’r don nesaf o brosiectau buddsoddi mewn ysgolion trwy Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru, yn flaenorol y Rhaglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain ganrif.

Bydd y prosiect yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor a Llywodraeth Cymru o’r achos busnes, ynghyd â chaniatâd cynllunio.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Fel rhan o’r cynnig, bu i Gyngor Sir Ddinbych benodi Wates Construction i wneud cam 1 dyluniad prosiect yr adeilad newydd.

Y cynnig yw dod a tri o bedwar safle’r ysgol ynghyd mewn un adeilad newydd sbon a adeiladir ar y maes chwarae drws nesaf i Ganolfan Hamdden Dinbych.

Bydd y cynnig yn golygu y bydd yr holl ddisgyblion a staff yn dod ynghyd mewn cyfleuster pwrpasol newydd sbon a fydd yn sicrhau bod gan yr ysgol amgylchedd dysgu hyblyg i alluogi’r ysgol i gyflwyno’r gofynion cwricwlaidd sy’n newid i fodloni anghenion y disgyblion a’u helpu i gyrraedd eu potensial llawn.

Bydd disgyblion Ysgol Plas Brondyffryn yn parhau i gael darpariaeth breswyl yng Ngherddi Glasfryn.

Dywedodd David Price, pennaeth Ysgol Plas Brondyffryn:

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous i’r ysgol wrth i ni ddod a’r holl ddysgwyr a’r staff ynghyd ar un safle i gyfleuster pwrpasol a fydd yn cynnig rhywbeth arbennig iawn i’n disgyblion.

“Mae cyfarfodydd cychwynnol gyda Wates a’r Awdurdod Lleol wedi bod yn gadarnhaol iawn ac mae’r staff a minnau yn edrych ymlaen at weld sut bydd y cynlluniau yn datblygu a’r gwaith yn cychwyn ar y safle.”

Meddai’r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd: “Ar ôl cwblhau Band B yn llwyddiannus yn Sir Ddinbych a welodd dros £90 miliwn o fuddsoddiad mewn adeiladau ysgolion ac a oedd o fudd i fwy na 4,300 o ddisgyblion yn Sir Ddinbych, rwy’n falch iawn o weld gwaith ar ein cam nesaf o adeiladu ysgol newydd yn dechrau.

“Mae’r prosiect hwn yn flaenoriaeth uchel i’r Cyngor ac yn enghraifft arall o ymrwymiad Sir Ddinbych i fuddsoddi mewn cyfleusterau addysg ac mae’n rhan o’n gwaith i sicrhau pobl ifanc yn cael y cychwyn gorau posib mewn bywyd.”

%d bloggers like this: