03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cynllun £700k lleddfu llifogydd i ddechrau yn Ystalyfera dros yr haf

BYDD Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn dechrau gweithio ar brosiect draenio gwerth £700,000 yn Ystalyfera ym mis Gorffennaf 2021, a fydd yn lleihau’r perygl o lifogydd i breswylwyr Ystâd y Farteg, ynghyd â bod o fantais i’r gymuned ehangach.

Gydag arian oddi wrth strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru (FCERM), bydd y prosiect yn golygu gwneud gwaith atgyweirio hanfodol i Gwlfert Glan Yr Afon yn Ystalyfera, gerllaw archfarchnad Asda.

Bydd y gwaith yn cymryd rhyw 12 wythnos i’w gwblhau, a bydd tua 140 metr o beipiau’n cael eu gosod.

Pwrpas y gwaith yw ailsefydlu’r cyswllt rhwng system ddraenio Heol Farteg a gollyngfa i Afon Tawe.

Drwy gydol y broses adeiladu, bydd y cyngor yn gwneud ei orau i leihau tarfu ar breswylwyr lleol hyd eithaf ei allu, ac ymddiheurir ymlaen llaw am unrhyw darfu anorfod dros dro a all gael ei achosi.

Meddai’r Cynghorydd Mike Harvey, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Strydlun a Pheirianneg:

“Rydyn ni wrth ein bodd o allu cyhoeddi fod y gwaith pwysig hwn yn dechrau, a fydd yn cael ei ddarparu er mwyn diogelu preswylwyr lleol a chynyddu gwytnwch y gymuned yn wyneb perygl llifogydd.

“Mae strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru, yr ydyn ni’n helpu i’w ddarparu’n lleol, yn rhoi gweledigaeth fwy hirdymor o’r modd y byddwn ni’n gwarchod a pharatoi cartrefi a busnesau’n well rhag gorlifo a newidiadau i’r arfordir, a chreu lleoedd sy’n gydnerth yn wyneb yr hinsawdd.”

%d bloggers like this: