04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cynllun adferiad i dywys Abertawe i’r cyfnod wedi’r pandemig

MAE Cyngor Abertawe wedi datgelu cynllun gweithredu adferiad economaidd uchelgeisiol ar gyfer y ddinas a fydd yn ceisio helpu i dywys y ddinas i’r cyfnod wedi’r pandemig.

Cymeradwywyd pecyn o fesurau a luniwyd i helpu i adfywio twristiaeth, canol y ddinas a chefnogi creu swyddi gan y Cabinet heddiw (dydd Iau) er mwyn achub ar gyfleoedd i drawsnewid Abertawe yn y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod.

Fe’i cyhoeddwyd ar ôl i’r Cyngor Llawn gytuno ar gronfa ysgogi gwerth £20 miliwn yr wythnos diwethaf i helpu busnesau a chymunedau i adfer yn gyflym ar ôl y pandemig.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor:

“Does dim amheuaeth bod y pandemig wedi trawsnewid ein dinas. Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i filoedd o fusnesau.

“Nawr, diolch i waith gwych ein GIG, gallwn edrych ymlaen at gyfnod o lacio cyfyngiadau a chael rywfaint o normalrwydd eto.

“Nod ein cynllun adferiad economaidd yw dechrau arni’n syth, wrth i ni fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael i adfywio twristiaeth, buddsoddi yn ein cryfderau, fel busnesau gwledig a chanol dinas, a diogelu a chreu miloedd o swyddi ar yr un pryd.

“Er gwaethaf y pandemig, gwnaed cynnydd gwych gyda menter Bae Copr, a bydd yn ffactor allweddol wrth gefnogi adferiad economaidd canol y ddinas yn y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.

“Ar yr un pryd, rydym yn bwriadu gweithio gyda’n cymunedau, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i adfywio canolfannau ardal hefyd. Cefnogir hyn gan y pecyn ysgogi gwerth £20 miliwn y cytunwyd arno yng nghyfarfod y cyngor yr wythnos diwethaf.

“Rydym hefyd yn bwriadu hyrwyddo’n cynhyrchwyr bwyd lleol mewn ffyrdd newydd ac arloesol – o ymgyrchoedd marchnata i greu cyfleoedd newydd i fusnesau bach a microfusnesau dyfu a gwerthu eu bwyd yn lleol ac ymhellach i ffwrdd.

“Mae maes twristiaeth Abertawe yn cyflogi oddeutu 6,000 o bobl ac yn creu budd economaidd o oddeutu £477 miliwn bob blwyddyn ar gyfer y ddinas. Ynghyd â busnesau lletygarwch, mae wedi dwyn llawer o faich y pandemig.

“Dyma pam y byddwn yn gwneud popeth y gallwn i fanteisio ar y diddordeb cynyddol mewn gwyliau lleol yn y DU yr haf hwn ac yn y blynyddoedd nesaf trwy gydweithio’n lleol a chyda Llywodraeth Cymru.”

Meddai’r Cyng. Stewart ”

Wrth gwrs, dyma ddechrau ein stori adferiad a bydd yn dibynnu ar ba mor gyflym y gall Cymru a’r DU adfer yn dilyn y pandemig.

“Ond ein neges yw bod Abertawe’n barod i groesawu pobl o Abertawe a gweddill y DU yn ddiogel.”

Dyma rai o uchafbwyntiau’r Cynllun Adferiad Economaidd:

Cefnogi busnesau trwy sicrhau bod ganddynt fynediad at grantiau. Rhannwyd dros £135 miliwn eisoes i’w cefnogi drwy gyfnod y pandemig;

Cefnogi busnesau’n ariannol wrth iddynt addasu ar gyfer amgylchiadau masnachu newydd, megis cadw pellter cymdeithasol trwy fasnachu yn yr awyr agored;

Cyflymu buddsoddiadau yng nghanol i ddinas i gynyddu nifer yr ymwelwyr i fusnesau manwerthu yn yr ardal;

Buddsoddi mewn gwella isadeiledd o ran beicio i ganolfannau ardal a chanol y ddinas;

Dwy ymgyrch marchnata twristiaeth fawr ar gyfer misoedd y gwanwyn a’r haf i ddenu pobl sydd am gael gwyliau gartref i ymweld ag Abertawe;

Archwilio’r potensial i ail-bwrpasu lleoedd gwag yng nghanol y ddinas ar gyfer busnesau newydd a busnesau sy’n tyfu ac ar gyfer sioeau a digwyddiadau diwylliannol a chreadigol;

Hyrwyddo bwyd lleol trwy weithio gyda chynhyrchwyr lleol i ddatblygu a marchnata eu cynnyrch trwy Bartneriaeth Bwyd Abertawe, gwerthu bwydydd ar-lein a chanolfannau marchnata. Annog marchnadoedd bwyd stryd gyda’r hwyr, a

Gwella sgiliau a chyfleoedd hyfforddiant fel nad yw’r rheini sydd wedi colli eu swyddi neu y mae angen iddynt ailhyfforddi yn colli allan ar swyddi newydd sy’n cael eu creu.

Meddai’r Cyng. Stewart:

“Bydd cynllun adferiad economaidd Abertawe’n eiddo i bobl Abertawe a bydd yn datblygu wrth i’r cyfnod wedi’r pandemig esblygu.

“Pan fydd y pandemig drosodd a bydd gennym arena newydd â lle i 3,500 o bobl ar gyfer y dyfodol, rhagor o adeiladau preswyl yng nghanol y ddinas a datblygiad busnesau uwch-dechnoleg yn yr arfaeth, bydd gennym gyfle unigryw i drawsnewid y ddinas ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

“Mae’r cynllun adferiad hefyd yn canolbwyntio ar bobl, busnesau a swyddi. Bydd angen i bobl sydd wedi colli’u swyddi ailhyfforddi ac efallai y bydd angen i fusnesau newid y ffordd maen nhw’n gweithredu. Bydd y cynllun adferiad yn helpu hynny.

“Bydd cyfleoedd yn ymddangos yn y tymor byr ym maes twristiaeth, ynghyd â rhai cyfleoedd yn y tymor hwy. Fel cyngor, roeddem yma i Abertawe yn ystod y pandemig pan roedd ein hangen fwyaf. Byddwn yma i’r ddinas eto wrth i ni adfer yn dilyn yr her fwyaf rydym wedi’i hwynebu o bosib ers yr Ail Ryfel Byd.”

%d bloggers like this: