BYDD gweithredwyr bysiau ar draws Cymru yn cael eu hachub gan becyn cyllido pellach gan Lywodraeth Cymru. Bydd diwydiant bysiau Cymru yn cael ei ariannu drwy Gynllun Brys newydd ar gyfer Bysiau. Am fod llawer o weithredwyr wedi colli refeniw yn ystod pandemig y coronafeirws, byddant yn cael cymorth ariannol drwy’r cynllun hwn yn gyfnewid am fwy o reolaeth gyhoeddus dros ein bysiau.
Mae disgwyl i’r refeniw aros yn isel yn y dyfodol agos a bydd yr arian brys hwn yn gymhorthdal yn lle’r refeniw a gollir. Bydd yn cael ei ddarparu am dri mis i ddechrau, ar lefelau hanesyddol a’i nod yw darparu rhwydwaith mwy integredig a hyblyg fydd yn ateb y galw, yn darparu gwasanaethau hyblyg ac yn neilltuo unrhyw arian ychwanegol.
Bydd disgwyliadau ychwanegol yn cael eu hychwanegu at ofynion y cyllid a oedd yn eu lle o dan gynllun y Gronfa Galedi Bysiau, gan gynnwys:
Gweithio gydag awdurdodau lleol a Trafnidiaeth Cymru i ddarparu gwasanaethau hyblyg a chapasiti i ateb y galw;
Gwneud pob ymdrech rhesymol i gydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ddiogel;
Gofyn am gymorth ariannol drwy’r holl grantiau eraill sydd ar gael iddynt;
Peidio â chynyddu prisiau siwrneiau bysiau masnachol; a hefyd
Darparu gwybodaeth i helpu i wella gwasanaethau ar gyfer teithwyr.
Rhaid i weithredwyr weithio gydag awdurdodau lleol a Trafnidiaeth Cymru i benderfynu ynghylch lefelau’r gwasanaeth. I wneud hynny, bydd angen ystyried sut orau i wasanaethu gweithwyr allweddol a helpu twf economaidd, gan ystyried materion o ran capasiti a phrinder staff posibl. Dyma gyfnod cyntaf cynllun ehangach a fydd yn gweld cyllidwyr o’r sector cyhoeddus yn dechrau adennill rheolaeth o fysiau am y tro cyntaf ers dadreoleiddio yn yr 1980au.
Dros y tymor hirach, bydd Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Trafnidiaeth Cymru ac mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau, yn datblygu’r Cynllun Brys i fod yn sail i gynllun cyllido newydd a fydd yn caniatáu £100m+ o gyfraniadau cyhoeddus at weithrediadau bysiau i sicrhau bod anghenion teithwyr yn cael blaenoriaeth dros anghenion rhanddeiliaid. Bydd hyn yn cynnwys dull tecach a mwy cyson o ran pennu prisiau siwrneiau, cynyddu nifer y teithwyr a chytuno i egwyddorion Contract Economaidd a Siarter Cymdeithasol.
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth:
“Mae pandemig y coronafeirws wedi arwain at ddirywiad o ryw 90% yn nifer y teithwyr. Felly mae wedi bod yn angenrheidiol cymryd camau gweithredu a darparu cyllid i sicrhau dyfodol y diwydiant.
“Mae hynny wedi golygu bod bysiau wedi gallu helpu gweithwyr allweddol i fynd i’r gwaith yn ystod y pandemig, a bydd yn golygu y gall y diwydiant barhau i fod yn rhan hanfodol o’n rhwydwaith trafnidiaeth gan ein bod mewn sefyllfa, gobeithio, i lacio’r cyfyngiadau ac ailddechrau’r economi.
“Yn ogystal â darparu cyllid byrdymor gydag amodau sy’n sicrhau gwerth y cyhoedd, rwyf am i’r Cynllun Brys ar gyfer Bysiau arwain y ffordd a fydd yn caniatáu i gyllidwyr a defnyddwyr y sector cyhoeddus gael mwy o ddweud yn y broses o ail-lunio ein rhwydwaith bysiau er lles teithwyr ar draws Cymru.”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m