04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cynllun buddsoddi gwerth miliynau ar gyfer De-orllewin Cymru

MAE gwella cymunedau trefol a gwledig, cefnogi busnesau bach a hybu sgiliau pobl ymysg y themâu allweddol ar gyfer cynllun newydd a fydd yn darparu bron £138m o gyllid i Dde-orllewin Cymru dros y tair blynedd nesaf.

Cyn bo hir, gofynnir i Aelodau’r Cabinet yn awdurdodau lleol Sir Gâr, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe gymeradwyo’r cynllun buddsoddi rhanbarthol y bwriedir iddo sicrhau cyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a glustnodwyd eisoes ar gyfer y rhanbarth.

Mae’r cynllun hefyd yn ceisio rhoi cefnogaeth bellach i brosiectau rhanbarthol sydd eisoes ar waith. Mae’r rhain yn cynnwys y potensial i wneud De-orllewin Cymru’n arweinydd y DU ar gyfer ynni adnewyddadwy, a thyfu economi ymwelwyr y rhanbarth er mwyn manteisio i’r eithaf ar ei olygfeydd a’i ddiwylliant.

Os bydd y pedwar cyngor rhanbarthol yn rhoi sêl bendith i’r cynllun buddsoddi rhanbarthol, caiff ei gyflwyno i Lywodraeth y DU erbyn 1 Awst i’w gymeradwyo.

Mae’r cynllun rhanbarthol wedi’i lywio gan gynlluniau buddsoddiad lleol ym mhob ardal awdurdod lleol, yn dilyn adborth gan breswylwyr a busnesau. Mae Llywodraeth Cymru, grwpiau cynrychioli busnes a phartneriaethau strategol sy’n cynnwys sefydliadau’r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol hefyd wedi cael cyfle i leisio’u barn.

Nid yw arweiniad manwl gan Lywodraeth y DU ar sut caiff yr arian ei ddosbarthu i brosiectau wedi’i gadarnhau eto, er ffefrir proses gystadleuol.

Unwaith y sicrheir yr arian, bydd pob awdurdod lleol rhanbarthol yn rhoi gwybod i’w busnesau a sefydliadau eraill sut gallant wneud cais am yr arian.

Dywedodd Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe,:

“Mae’r arian eisoes wedi’i neilltuo ar gyfer y rhanbarth, ond mae angen i ni gyflwyno cynllun buddsoddi rhanbarthol i Lywodraeth y DU er mwyn ei dderbyn.

“Dyna pam y bu’n rhaid cynnal ymgynghoriad helaeth ym mhob ardal awdurdod lleol i gael barn pobl am y themâu a’r blaenoriaethau a ddylai fod yn allweddol i’r cynllun.

“Mae’r holl adborth bellach wedi cael ei ystyried er mwyn helpu i lywio’r cynllun a fydd, unwaith y caiff ei gadarnhau, yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’n cymunedau, ein preswylwyr a’n busnesau bach.”

Meddai’r Cyng. Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

“Caiff y cyllid hwn ei ddefnyddio i helpu i gyflawni’n cynllun adfer economaidd ar gyfer Sir Gâr, a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad ag arweinwyr busnes a chymunedau lleol, ac sy’n nodi’n huchelgeisiau ar gyfer datblygiad a thwf yn y dyfodol.

“Mae’n rhoi ffocws ar ddiogelu busnesau a swyddi presennol a chefnogi busnesau newydd, ynghyd ag annog twf a helpu pobl i ddatblygu sgiliau ar gyfer cyflogaeth yn awr ac yn y dyfodol, gyda’r buddsoddiad wedi’i dargedu ar gyfer meysydd twf strategol Sir Gâr, gan gynnwys canol trefi, yr economi wledig a chymunedau difreintiedig.”

%d bloggers like this: