04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cynllun ffordd osgoi arfaethedig Llanharan i’w weld ar fideo rhithiol

MAE Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi rhannu fideo rhithiol sy’n mynd â’r gwyliwr ar daith uwchben ac o amgylch Ffordd Osgoi arfaethedig Llanharan. Bydd y fideo yn rhan o ymgynghoriad cyhoeddus helaeth a fydd yn cychwyn yn y dyfodol agos.

Ym mis Mawrth 2021, rhannodd y Cyngor yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd ar y cynllun priffyrdd sylweddol, gan ddweud y byddai’n cynnal ymarfer ymgynghori Cais Cyn-Gynllunio yn ystod haf 2021. Bydd hyn yn sicrhau bod trigolion yn cael y cyfle i leisio’u barn. Bydd hyn yn ei dro yn cael ei ddefnyddio i lywio’r cais cynllunio.

Bydd cynllun Ffordd Osgoi arfaethedig Llanharan yn adeiladu ffordd newydd i’r de o Lanharan, sydd wedi’i rhannu’n dair rhan. Mae rhan orllewinol y ffordd eisoes wedi’i hadeiladu oddi ar gylchfan Dragon Studios yn rhan o ddatblygiad Llanilid, tra bydd y rhan ganol yn cael ei hadeiladu gan ddatblygwr tai yn rhan o’u cynllun.

Bydd y rhan ddwyreiniol 1.6km o’r ffordd, a llwybr teithio llesol, yn cael ei hadeiladu gan y Cyngor. Yn 2019, cytunodd y Cabinet y bydd y ffordd yn cwrdd â’r A473 i’r dwyrain o Orsaf Betrol Llanharan. Bydd y Cyngor hefyd yn ail-alinio Ffordd Llanhari i gysylltu â’r ffordd osgoi drwy’r gylchfan ar ben Ffordd Fenter, a bydd aliniad presennol Ffordd Llanhari yn cael ei ddefnyddio’n droedffordd/llwybr beicio.

Bydd troadau yn y ffordd ar yr A473 i’r gorllewin o Gylchfan Dragon Studios (‘Cow Corner’ i bobl leol) yn newid i fod yn ffordd fwy syth. Yn ogystal â hyn, bydd llwybr teithio llesol yn cael ei adeiladu i wella’r cysylltiadau cerdded a beicio rhwng Llanharan a Phen-coed.

Cyn cynnal yr ymgynghoriad yn ystod yr haf, mae’r Cyngor bellach wedi cyhoeddi fideo rhithiol o’r cynigion. Gan gynnwys nodiadau esboniadol a throslais, mae’r fideo yn egluro sawl agwedd ar gynllun y ffordd newydd, fel y llwybrau teithio, Teithio Llesol ac ystyriaethau o ran cynaliadwyedd a draenio.

Mae’r fideo llawn ar gael i drigolion ar sianel YouTube y Cyngor.

Bydd y fideo, a gafodd ei greu ar y cyd ag ymgynghorwyr y Cyngor Redstart, yn rhan o becyn ymgynghori yr ymarfer ymgysylltu dros yr haf, pan fydd cyfle i drigolion rannu eu barn yn ffurfiol.

Meddai’rCynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o’r Cabinet sy’n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth:

“Mae Ffordd Osgoi Llanharan yn un o flaenoriaethau’r Cyngor o ran cynlluniau priffyrdd i’w cyflawni yn y dyfodol. Mae nifer o fanteision i’r Cynllun, fel lleihau amseroedd teithio lleol, llai o dagfeydd traffig yn Llanharan, Dolau a Bryn-cae, a gwella cysylltedd yn Ardal Cyfle Strategol Llanilid/yr M4, sydd wedi’i nodi’n lleoliad ar gyfer twf economaidd.

Mae’r gwaith yn mynd rhagddo ar Ffordd Osgoi Llanharan, ynghyd â deuoli’r A4119 o Coed-elái i Ynysmaerdy, a Phorth Gogledd Cwm Cynon Gogledd yr A465. Cwblhaodd y Cyngor gyflwyniad cynllunio ar ei gyfer ddechrau mis Mawrth 2021.

“Mae’r daith rithiol uwchben ac o amgylch Ffordd Osgoi Llanharan y mae’r Cyngor wedi’i chyhoeddi heddiw yn debyg i fideo y llynedd ar gyfer Porth Gogledd Cwm Cynon yr A465. Roedd hyn yn ffordd effeithiol i gyfleu’r cynllun i drigolion.

“Bydd aelodau’r cyhoedd yn gallu dweud eu dweud yn ffurfiol mewn ymgynghoriad Cais Cyn-Gynllunio yn ddiweddarach yr haf yma, a byddwn ni’n rhannu manylion pellach maes o law. Dyma fydd yr ail gyfle i drigolion ddweud eu dweud, yn dilyn ymarfer ymgysylltu ddechrau 2019 lle dangosodd 95% o ymatebion ysgrifenedig gefnogaeth i’r cynigion. ”

%d bloggers like this: