03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cynllun gwyddoniaeth yn ceisio ysbrydoli darpar beirianwyr Cymru

ER mwyn nodi Wythnos Wyddoniaeth Prydain, mae’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams wedi cyhoeddi heddiw bod rhaglen i ddenu pobl ifanc i ddilyn gyrfa ym maes peirianneg yn cael ei hymestyn i ysgolion cynradd.

Ar hyn o bryd, mae Cynllun Addysg Beirianneg Cymru yn cynnal gweithgareddau i hyrwyddo pynciau a gyrfaoedd ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) ymysg myfyrwyr ysgolion uwchradd.

Mae’r cynllun bellach yn cael ei gynnig i blant o dan 11 oed ac mewn ysgolion yn Nwyrain Cymru. Mae’r gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc yn cynnwys datblygu sgiliau dylunio meddalwedd a gweithgynhyrchu digidol a chyfarfod â phobl o fyd diwydiant y gall plant eu hefelychu er mwyn eu hannog i ennill cymwysterau ym maes gwyddoniaeth.

Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys gweithgareddau sy’n hyrwyddo pynciau STEM ymysg menywod ifanc ac yn herio stereoteipiau ar sail rhyw.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Mae’n bwysig o ran twf economaidd yng Nghymru bod digon o bobl yn mynd ymlaen i gael gyrfaoedd mewn meysydd STEM. Felly cynharaf yn y byd yr ydyn ni’n rhoi’r cyfle i’n plant ddysgu am wyddoniaeth – a hynny mewn ffordd hwyliog a diddorol – y mwyaf tebygol yw hi y byddant yn datblygu’r hyder a’r sgiliau i astudio pynciau gwyddonol yn ddiweddarach yn eu gyrfaoedd.

“Mae’n un o’m blaenoriaethau i hefyd i gael mwy o fenywod ifanc i astudio pynciau STEM. Bydd estyn y cynllun i fyfyrwyr iau ac i rannau eraill o Gymru yn caniatáu i fwy o ferched gredu bod gyrfa ym maes gwyddoniaeth neu beirianneg yn addas ar eu cyfer.

“Fe wyddom ni o fyd gwyddoniaeth fod i bob gweithred ymateb hafal a dirgroes. Rwy’n edrych ymlaen at gael yr ymateb yr hoffem ni ei weld – sef gweld mwy fyth o bobl ifanc yn mynd i faes gwyddoniaeth yng Nghymru!”

Dyma rai o weithgareddau Cynllun Addysg Beirianneg Cymru:

F1 mewn Ysgolion (Blynyddoedd 7 i 13)
Cystadleuaeth lle mae timau o ddisgyblion yn dylunio ac yn cynhyrchu ceir rasio F1 wedi eu pweru â CO2 gan ddefnyddio meddalwedd dylunio cyfrifiadurol. Mae’r dysgwyr yn datblygu eu dealltwriaeth o ffiseg, erodynameg, dylunio a gweithgynhyrchu mewn ffordd ymarferol a dychmygus, yn ogystal â sgiliau fel arwain a gwaith tîm.

Denu Merched i Faes STEM (Blynyddoedd 8 a 9)
Nod y fenter hon yw annog disgyblion benywaidd i gymryd diddordeb byw mewn pynciau STEM cyn iddynt wneud eu dewisiadau TGAU. Mae’n cynnig cyfleoedd i grwpiau o ddisgyblion ymweld â chwmni yng Nghymru neu adran mewn prifysgol. Ar hyn o bryd, mae’r cwmnïau sy’n croesawu ymweliadau yn cynnwys Ford, Wafer Fab, Safran Seats, Viridor, Sony a BT.

Peirianwyr y Dyfodol – 11 i 14 oed
Gweithgaredd tîm er mwyn adeiladu a rhaglennu robot LEGO a fydd yn cyflawni tasgau ar thema hedfan a datrys problemau peirianneg eraill.

Headstart Cymru – Blwyddyn 12
Cyrsiau preswyl sy’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr dreulio amser mewn Adran Peirianneg, Dylunio Cynnyrch neu Gyfrifiadura mewn prifysgol cyn iddynt gyflwyno eu cais UCAS.

Her Ysgol Gynradd Jaguar – Blynyddoedd 2 i 6
Mae’r her yn gyfle i ysbrydoli pobl ifanc i ddod yn beirianwyr drwy ddylunio a chynhyrchu’r car cyflymaf posibl.

%d bloggers like this: