04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cynllun newydd i helpu i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o talent creadigol yng Nghymru

HEDDIW lansiodd Llywodraeth Cymru gynllun newydd i helpu i ddatblygu’r dalent bresennol a’r genhedlaeth nesaf o dalent ym meysydd teledu a ffilm, cerddoriaeth a chynnwys digidol.

Lansiodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, gronfa gwerth £1 miliwn hefyd er mwyn cefnogi’r cynllun newydd hwn.

Mae’r diwydiannau creadigol yn hynod bwysig i economi a diwylliant Cymru. Yn ôl data ar gyfer 2021, roedd sectorau’r diwydiannau creadigol yng Nghymru – sy’n cynnwys 3,423 o fusnesau – yn cyflogi 35,400 o bobl, sef cynnydd o 6.4 y cant ers 2018, a chynhyrchodd y diwydiant drosiant blynyddol o £1.7 biliwn yn 2021, sef cynnydd o 14 y cant ers 2017.

Mae asiantaeth greadigol Llywodraeth Cymru, Cymru Greadigol, wedi ymrwymo i gefnogi a meithrin y gweithlu presennol a gweithlu’r dyfodol.

Mae Cynllun Gweithredu Sgiliau Creadigol 2022 i 2025 sy’n cael ei lansio heddiw wedi’i gynllunio i gefnogi datblygu gweithlu medrus yng Nghymru – gweithlu sydd ei angen ar y sector er mwyn iddo ffynnu. Bydd hefyd yn ystyried nodau dros yr hirdymor i sicrhau bod Cymru’n parhau i fod yn lle ffyniannus a chreadigol i wneud busnes.

Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar dri sector â blaenoriaeth: cerddoriaeth, cynnwys digidol, a ffilm a theledu.

Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar sawl nod allweddol, gan gynnwys y canlynol:

Cefnogi ein cenhedlaeth nesaf o dalent drwy:

ddarganfod, cefnogi a meithrin talent greadigol yng Nghymru;

sicrhau bod y sectorau â blaenoriaeth yn cael eu hintegreiddio yn gynnar yn addysg plant, gan wneud y sector yn ddewis gyrfaol realistig a dichonol ar gyfer pobl ifanc;

darparu cyfleoedd eang i’r rheini sydd am weithio yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru;

datblygu gweithlu creadigol sy’n adlewyrchu’r holl gymunedau yng Nghymru; a 

mynd i’r afael â’r anghysondeb rhwng pobl ifanc sy’n gadael addysg a’r anghenion cyflogaeth yn y diwydiant

Cefnogi diwydiannau creadigol sy’n bodoli eisoes drwy:

gwarchod a chadw’r gweithlu creadigol presennol ac yn y dyfodol;

cefnogi’r gweithlu presennol i ddatblygu eu gyrfaoedd;

cefnogi arweinwyr a rheolwyr y dyfodol i ffynnu, tyfu, a chyrraedd eu llawn botensial; a

sicrhau bod gan y gweithlu creadigol yng Nghymru y sgiliau cywir ar gyfer y dyfodol.

I gefnogi’r cynllun gweithredu, mae Cronfa Sgiliau Creadigol newydd gwerth £1 miliwn wedi cael ei lansio er mwyn cefnogi prosiectau o safon sy’n darparu sgiliau a hyfforddiant yn y diwydiannau creadigol.

Bydd rhwng £15,000 a £200,000 ar gael ar gyfer prosiectau llwyddiannus, tan 31 Mawrth 2024.

Wrth lansio’r cynllun newydd, dywedodd Dawn Bowden:

“Mae gan Gymru rai o’r bobl fwyaf creadigol yn y byd. Drwy waith Cymru Greadigol, rydyn ni am hyrwyddo amgylchedd lle gellir meithrin talent drwy ddatblygu sgiliau a lle gall cwmnïau creadigol barhau i dyfu.

Mae ein diwydiannau creadigol yn gwneud cyfraniad sylweddol iawn i’n heconomi. Maen nhw hefyd yn cyfrannu at frand cenedlaethol cryf, gan helpu i hyrwyddo Cymru, ei diwylliant a’i thalent i’r byd.

Rydyn ni am feithrin talent newydd a thalent sy’n dod i’r amlwg o bob cymuned yng Nghymru, a gwireddu ein huchelgeisiau ar gyfer twf cynhwysol.

Bydd hyn yn cefnogi’r ymrwymiadau yn ein Rhaglen Lywodraethu, gan gynnwys cyflawni’r Warant i Bobl Ifanc, sy’n cynnig gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunan-gyflogaeth i bawb o dan 25 oed, a chreu 125,000 o brentisiaethau ar gyfer pob oedran.

Mae Cynllun Gweithredu Sgiliau Creadigol wedi’i lunio gan Banel Cynghori ar Sgiliau Creadigol sy’n cynnwys deg arbenigwr yn y diwydiant.”

%d bloggers like this: