04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cynllun newydd i helpu pobl ag anableddau dysgu i gael gwaith

MAE helpu pobl ag anableddau dysgu i ddod o hyd i waith yn rhan allweddol o’n cynllun gweithredu i sicrhau eu bod yn cael cyfle i fyw bywydau llawn ac annibynnol, yn ôl y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, a oedd yn siarad heddiw (23 August) ar ôl cyfarfod â dyn o Gaerdydd sy’n dathlu carreg filltir yn ei waith.

Cyfarfu Mrs Morgan â Harry Clements, 28, sydd â syndrom Down, yn ei weithle yn Greggs yng Nghaerdydd lle mae newydd gwblhau pum mlynedd o gyflogaeth.

Mae’n un o’r cannoedd o bobl â syndrom Down sydd wedi cael cymorth i gael gwaith drwy raglen WorkFit y Gymdeithas Syndrom Down, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Roedd yn bleser gwrdd â Harry a’i gyflogwyr heddiw. Mae’n esiampl wych i eraill sydd ag anableddau dysgu. Mae cael y cyfle i gael swydd â chyflog yn hynod bwysig i bawb, o ran eu hunan-barch a byw bywyd annibynnol.

Mae hyn yn elfen allweddol o gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer Gweithredu ar Anabledd Dysgu, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. Bydd cynlluniau fel rhaglen WorkFit yn darparu cyflogaeth, hyfforddiant a chymorth i bobl ag anableddau dysgu er mwyn eu helpu i ymuno â’r gweithle a pharhau’n rhan ohono.

Bydd ein cynllun gweithredu hefyd yn creu mwy o gyfleoedd i bobl ag anabledd dysgu i’w helpu i gael mynediad at gynlluniau prentisiaethau.”

Dywedodd Harry:

“Dw i wrth fy modd yn gweithio yn y swydd hon, mae’n gwneud imi deimlo’n falch ac yn hapus. Dw i’n mwynhau gwisgo iwnifform a sgwrsio gyda’r cwsmeriaid a chwrdd â phobl newydd. Dw i’n edrych ymlaen at fynd i’r gwaith bob dydd ac ennill fy nghyflog fy hunan.”

Meddai Julian Hallett,  Rheolwr Datblygu Gwasanaethau Cymdeithas Syndrom Down:

“Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Greggs, sydd wedi bod mor gefnogol tuag at raglen gyflogaeth Workfit Cymdeithas Syndrom Down. Dechreuodd ein cysylltiad â’r cwmni yn 2016, pan gawson ni’r cyfle i gyflwyno dyn ifanc i’w siop ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ers hynny, mae’r rhaglen WorkFit wedi helpu 20 o bobl sydd â syndrom Down i gael gwaith yn siopau Greggs ar draws y De.”

Dywedodd Alison Thwaite, Rheolwr WorkFit Cymdeithas Syndrom Down:

“Mae Greggs yn enghraifft wych o gyflogwr cefnogol a chynhwysol, ac mae wedi mabwysiadu dull gweithredu WorkFit yn llawn er mwyn datblygu cyfleoedd sy’n gallu newid bywydau drwy helpu pobl sydd â syndrom Down i gael gwaith ystyrlon.”

Mae pobl â syndrom Down sy’n gweithio i Greggs yn dal swyddi â chyflog, lle maen nhw’n cael eu hannog i ddatblygu eu sgiliau drwy’r hyfforddiant sy’n cael ei roi gan y cwmni, ac maen nhw’n cymryd rhan lawn yn ei holl weithgareddau yn y gwaith ac yn gymdeithasol. Mae Harry’n esiampl wych o ba mor llwyddiannus y gallai hyn fod, gan ddangos y manteision i’r cyflogwr yn ogystal â’r sawl sy’n cael ei gyflogi.

Ers lansio’r prosiect yn 2012, mae rhaglen Workfit wedi sicrhau cannoedd o gyfleoedd cyflogaeth i bobl sydd â syndrom Down. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu grant o £278,484 tuag at ei gwaith yn 2022-25.

Ychwanegodd Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru, Albert Heaney:

“Mae llwyddiant Harry fel aelod gwerthfawr o’r tîm yn Greggs ers pum mlynedd yn rhywbeth i’w ddathlu. Mae’n esiampl bwerus sy’n dangos sut y gallai gweithleoedd cynhwysol sicrhau bod pawb yn cael y gefnogaeth y mae ei hangen i wireddu eu potensial yn llawn.”

%d bloggers like this: