09/08/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cynllun peilot bwndeli babi ar waith yng Nghymru

FEL rhan o gynllun peilot newydd, bydd y ‘bwndeli babi’ cyntaf yn cael eu dosbarthu i fenywod beichiog yng Nghymru yr wythnos hon.

[arm_restrict_content plan=”any_plan,” type=”show”]
[armelse]
[/arm_restrict_content]Bydd y 200 o fwndeli a fydd yn cael eu dosbarthu fel rhan o’r cynllun yn cael eu rhannu ymhlith menywod beichiog yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe dros y misoedd nesaf.

Ymhlith yr eitemau yn y bwndeli bydd dillad babi o ansawdd uchel mewn cynllun niwtral, sachau cysgu, eitemau ar gyfer chwarae er mwyn annog cyfathrebu a meithrin cysywllt agos rhwng babanod a’u rhieni yn ystod y dyddiau cynnar, eitemau ar gyfer y cartref a fydd o gymorth i roi bath i’r babi yn ddiogel ac amrywiaeth o gymorth i fenywod ar gyfer y cyfnod ar ôl iddynt eni eu babi.

Cafodd y bwndeli eu cynllunio i hybu iechyd a llesiant babanod newydd-anedig ac i helpu rhieni yn ystod y diwrnodau a’r wythnosau cyntaf o fywyd babi. Maent yn ymdebygu i fentrau llwyddiannus tebyg a gynhaliwyd yn yr Alban a’r Ffindir.

Nid oes unrhyw gost ariannol i’r rhieni a fydd yn derbyn bwndel, ac nid oes rhaid iddynt dderbyn bwndel os nad ydynt yn dymuno ei gael neu os nad oes ei angen arnynt.

Bydd rhai bwndeli yn cynnwys rhwymyn pwrpasol i gario’r babi a bydd rhai eraill yn cynnwys pecyn cychwynnol o gewynnau y gellir eu hailddefnyddio. Yn ogystal â hynny, bydd canllawiau defnyddiol yn y bwndeli i rieni newydd yn ogystal â gwybodaeth am sut i ddod o hyd i wybodaeth rianta ar wefan Llywodraeth Cymru.

Roedd Karys Davies a’i gŵr Ben o Benllergaer, Abertawe, ymysg y rhai cyntaf i gael bwndel yn gynharach yr wythnos hon. Dywedodd Karys;

“Pan gyrhaeddodd y bocs roeddwn i’n teimlo’n llawn cyffro, fel petawn i wedi cael anrheg Nadolig cynnar.

“Dw i’n credu bydd rhieni eraill sy’n disgwyl babi yn siŵr o weld y bwndel babi yn ddefnyddiol. Mae’n becyn cychwyn gwych – mae yna lawer o bethau ynddo y byddwch eu hangen pan mae’n anodd mynd allan a gwneud yn siŵr bod popeth gennych chi. Mae’n tynnu’r pwysau hwnnw oddi arnoch yn yr wythnosau cyntaf pan nad ydych yn gwybod yn iawn beth fyddwch chi ei angen. Mae tipyn o bopeth yno i’ch helpu drwy’r cam hwnnw.”

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mae ein bwndeli babi yn ffordd o ddweud “croeso i’r byd!” i Gymry bach sydd newydd eu geni ond maen nhw hefyd yn rhoi cymorth gwych i rieni a babanod ar adeg sydd mor allweddol bwysig yn eu bywydau nhw i gyd. Mae hyn yn arbennig o bwysig nawr ar gyfer teuluoedd sy’n croesawu babanod newydd yn ystod pandemig. Rydyn ni’n gobeithio hefyd y bydd y bwndeli hyn yn helpu i sicrhau mwy o degwch i rieni a’u babanod drwy leihau gwariant ar nwyddau sy’n hanfodol i fabanod newydd-anedig.

“Mae llawer wedi manteisio ar gynlluniau tebyg, fel yn yr Alban er enghraifft, ac mae’r dystiolaeth hyd yma yn awgrymu bod rhieni yn ardal Abertawe yn awyddus i ymuno â’r cynllun peilot hwn adeg eu hapwyntiad cynenedigol 28 wythnos.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael adborth gan y teuluoedd hyn wrth iddyn nhw ddechrau ar eu taith gyda’r aelod diweddaraf o’u teulu.”

Dywedodd Susan Jose, Dirprwy Bennaeth Bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:

“Yn dilyn gwaith cynllunio manwl ac mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, rydw i wrth fy modd ein bod ni nawr mewn sefyllfa i ddechrau dosbarthu’r ‘bwndeli babi’. 

“Rydw i’n siŵr y bydd menywod yn ardal leol Bwrdd Iechyd Bae Abertawe yn falch iawn o’u derbyn, yn enwedig yn y cyfnod hwn pan fydd llawer o deuluoedd yn wynebu ansicrwydd ariannol yn ystod y pandemig.

“Rwy’n dymuno pob llwyddiant i’r cynllun peilot ac yn edrych ymlaen at gael sylwadau ac adborth gan fenywod a fydd yn helpu i wneud penderfyniadau tymor hwy ar gyfer y cynllun.”

Cafodd y bwndel babi a’i gynnwys ei ddatblygu ar sail adborth gan rieni newydd a gweithwyr proffesiynol, a bydd y cynllun peilot yn cael ei werthuso’n annibynnol i helpu i gynghori ar benderfyniadau tymor hwy ar gyfer y cynllun.

%d bloggers like this: