04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cynllun Penyberth: pentref gofal dros dro yn helpu pobl ddychwelyd adref

MAE Cyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymuno gyda chymdeithas dai ClwydAlyn ar brosiect gofal cymdeithasol newydd sy’n anelu at gefnogi pobl i ddychwelyd i fyw yn eu cartrefi eu hunain.

Mae Cynllun Penyberth yn gwneud defnydd o gartrefi sydd ar gael yn hen bentref Pwylaidd Penrhos ym Mhen Llŷn i alluogi pobl adael yr ysbyty ond sydd ddim eto yn barod i fyw yn eu cartrefi eu hunain.

Mae’r cynllun sydd ar waith dros y gaeaf yn gallu darparu gwasanaeth ar gyfer 12 o bobl ar unrhyw un adeg. Y nod yw cefnogi pobl hŷn neu fregus i ddatblygu’r sgiliau a’r cryfder y maent eu hangen er mwyn dychwelyd i’w cartrefi eu hunain.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd ar gyfer Gofal:

“Rydym ar hyn o bryd yn wynebu sialens enfawr i sicrhau fod gan bobl sy’n gadael yr ysbyty becyn gofal addas mewn lle.

“Mae hyn yn arbennig o wir mewn rhannau o’r sir, ond yn ardal Dwyfor rydym yn falch iawn o weithio gyda’n partneriaid yn y Bwrdd Iechyd ac eraill i gynnig darpariaeth dros dro fel y gall bobl gychwyn ar eu taith adref.

“Mae Cynllun Penyberth yn dangos beth y gallwn ei gyflawni pan rydym yn meddwl yn greadigol gyda’n gilydd fel partneriaid yn y sector iechyd a gofal.

“Mae staff ymroddedig ar gael ar y safle yn ogystal â mynediad at Feddyg Teulu lleol all gynnig cefnogaeth ychwanegol os oes angen. Mae’r cynllun yma yn cynnig y cyfle i bobl adennill cryfder a chodi eu hyder fel eu bod yn gallu dychwelyd adref a pharhau i fyw yn annibynnol yn eu cartref”

Meddai Chris Lynes, Cyfarwyddwr Nyrsio Ardal y Gorllewin ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

‘Yn anffodus, mae oedi i nifer o’n cleifion wrth adael yr ysbyty, oherwydd prinder gofalwyr cartref yn ein cymunedau.

“Mae prosiect Penyberth yn enghraifft o bartneriaeth gadarnhaol i alluogi cleifion i adael yr ysbyty mewn modd amserol pan mae’n nhw’n ddigon iach i wneud hynny ac i’w cefnogi i ddychwelyd yn ôl i’w cartrefi, gyda chynllun wedi’i gefnogi gan y tîm adnoddau cymunedol ehangach.”

Ychwanegodd Dr Eilir Hughes, Arweinydd Clwstwr Meddygon Teulu ardal Dwyfor:

“Mae wedi bod yn gyfnod hynod heriol i’r sector iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae’r prosiect yma yn pwysleisio pa mor gysylltiedig yw’r ddwy elfen o ofal a bod yn rhaid i ni weithio fel un er mwyn gwella o’r pandemig.

“Rydan ni’n gwybod fod pobl yn gwella yn gynt mewn lleoliad sy’n debycach i amgylchedd gartref yn hytrach na ward ysbyty. Rwy’n gobeithio mai hwn yw’r cyntaf o lawer o brosiectau arloesol o’r fath sy’n ceisio unioni’r galw am ofal sydd gennym yn ein cymunedau.”

Dros y misoedd diwethaf, bu nifer o bobl o ardal Dwyfor yn aros am ofal cartref, gan gynnwys rhai oedd yn aros i adael yr ysbyty. Mae Cynllun Penyberth yn cynnig safle cyfleus ar gyfer preswylwyr yn y rhan yma o’r sir. Mae’n gwneud defnydd o gartrefi ClwydAlyn ym Mhenrhos, gyda thîm o staff gofal a gyflogir gan Gofal Seibiant a gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymunedol i gynnig help a chefnogaeth yn ôl yr angen.

Trwy gael tîm o ofalwyr cartref ar y safle, bydd Cynllun Penyberth yn galluogi staff ofalu am fwy o bobl o’r ardal gyda’r amser sydd ganddynt, heb orfod teithio.

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Gweithredol Gofal a Chymorth ClwydAlyn, Edward Hughes: “Rydym yn hapus iawn i fod yn gweithio gyda’n partneriaid ar y gwasanaeth newydd ac arloesol yma.

“Fe wnaeth ClwydAlyn gymryd Pentref Pwylaidd Penrhos drosodd yn 2020 ac ers hynny rydym wedi bod yn awyddus i weithio gyda Chyngor Gwynedd a’r Bwrdd Iechyd lleol i allu cynnig cymorth a chefnogaeth i’r rhai sydd ei angen.”

%d bloggers like this: