04/24/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cynllun pum mlynedd Caerdydd i adfywio canol y ddinas ar ôl y pandemig

MAE Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi cynllun pum mlynedd i ail-ddychmygu ac ail-fywiogi canol dinas Caerdydd mewn byd wedi’r pandemig.

Mae’r cynllun gweithredu yn amlinellu’r mentrau a’r rhaglenni allweddol y bydd y Cyngor a phartneriaid yn gweithio tuag atynt dros y pum mlynedd nesaf i sicrhau bod gan Gaerdydd ganol dinas fywiog.  Fe’i lluniwyd yn dilyn cyfres o ymgynghoriadau cyhoeddus ar adroddiad Gwyrddach Tecach Cryfach y Cyngor a gyhoeddwyd y llynedd. Gallwch ddarllen mwy am hynny yma Adeiladu Caerdydd Wyrddach, Tecach a Chryfach mewn byd ôl-COVID (cardiffnewsroom.co.uk)

Cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu rhwng mis Mehefin a mis Hydref, gan gynnwys nifer o ddigwyddiadau ystyriol o blant i gasglu barn pobl ifanc ochr yn ochr â thrigolion, busnesau, y sector diwylliannol a rhanddeiliaid eraill. Cynhyrchodd arolwg hefyd dros fil o ymatebion a ddefnyddiwyd i helpu i baratoi’r cynllun pum mlynedd.

Bydd y cynllun, sydd wedi’i gynllunio i ddod â grwpiau partner a rhanddeiliaid ynghyd o bob rhan o’r ddinas er mwyn helpu i wireddu’r weledigaeth, yn canolbwyntio ar naw thema allweddol:

Canol dinas sy’n ddiogel, yn lân, yn wyrdd, yn ddeniadol ac wedi ei reoli’n dda;

Canolfan fusnes a chyflogaeth ddeinamig sy’n rhoi mwy o gyfleoedd gwaith;

Canol dinas sydd yn ganolbwynt rhwydwaith trafnidiaeth cwbl integredig;

Canol dinas gwyrdd a bio-amrywiol;

Canolfan sy’n cynnwys dyluniad trefol ac amgylchfyd cyhoeddus rhagorol;

‘Canol dinas las’ sy’n defnyddio ei afonydd a’i gamlesi;

Canolfan fywiog i fyw, gweithio a chwarae ynddi;

Canolfan sy’n canolbwyntio ar gynigion diwylliannol gwych; a hefyd

Canol dinas sy’n cynnig profiad o safon i ymwelwyr.

Dwedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd,:

“Cafodd pandemig Covid-19 effaith eithriadol ar ganol dinasoedd ledled y Deyrnas Gyfunol ac yn wir y byd. Newidiodd y ffyrdd rydym yn byw ein bywydau ac yn cynnal ein busnes. Mae’r newid i weithio gartref a’r cyflymu fu a’r defnydd sydd i brynu ar-lein wedi taro’r sector manwerthu yng nghanol dinasoedd. Mewn sawl ffordd mae wedi ein gorfodi i ystyried y tueddiadau tymor hwy hynny, a oedd eisoes yn dod tuag atom, ond sydd bellach wedi’u cyflymu oherwydd y pandemig.

“Fodd bynnag, ni chredwn fod y tueddiadau hyn yn canu cnul canol dinasoedd, teimlwn eu bod yn cynnig cyfleoedd cyffrous i esblygu. Mae canol dinas Caerdydd yn cynnal 70,000 o swyddi ac mae’n hanfodol i’r economi leol, ranbarthol a chenedlaethol. Dyma rai o’r rhesymau pam yr ydym yn cychwyn ar daith i edrych ar ffyrdd y gallwn adfywio canol dinas Caerdydd mewn byd wedi’r pandemig. Rydym am gael canol dinas sy’n parhau i fod yn ddiogel, yn lân, yn wyrdd, yn ddeniadol ac yn cael ei gynnal a’i gadw’n dda, ond yr ydym hefyd am iddo fod yn fwy gwyrdd a hyd yn oed yn fwy croesawgar. Canol dinas sy’n cynnig profiadau gwych i ymwelwyr, a phobl sy’n byw yma, mewn lleoliadau o ansawdd uchel a chanol dinas sy’n creu cyfleoedd gwaith newydd.

“Wrth gwrs, mae Caerdydd eisoes wedi bod ar broses o newid llwyddiannus dros y 25 mlynedd diwethaf.  Mae canol ein dinas wedi gweld gwelliannau trawsnewidiol o ddatblygiadau hamdden, manwerthu a busnes mawr – fel Stadiwm Principality i Ganolfan Dewi Sant ac adfywio’r Sgwâr Canolog, hyd at fwy o gerddwyr yn cerdded ei strydoedd gan wneud y ddinas yn fwy cynhwysol a hygyrch. Ond wrth i’r ddinas ddod allan o’r pandemig mae’n hanfodol ein bod yn ystyried y camau y mae angen i ni eu cymryd i gyflymu adferiad. Ein nod nawr yw adeiladu ar gyflawniadau presennol y ddinas, creu cyrchfan fywiog, rhan o brifddinas wych sy’n gweithio i bob preswylydd, busnes ac ymwelydd.”

Chwaraeodd yr arbenigwr byd-eang ar ddinasoedd, Dr Tim Williams, ran allweddol wrth helpu i lunio’r adroddiad er mwyn paratoi ar gyfer yr ymgynghoriad. Mae Dr Williams, sydd ag 20 mlynedd o brofiad yn gweithio yma ac yn rhyngwladol yn datblygu polisïau rheoli trefi a dinasoedd ar gyfer dinasoedd mawr fel Llundain a Sydney, yn dweud bod Caerdydd mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y cyfleoedd niferus a fydd yn codi yn y byd ôl-Covid.

Wrth ysgrifennu yn ôl ym mis Mehefin, yn yr adroddiad ‘Symud Caerdydd Ymlaen ar ôl COVID-19′, dwedodd Dr Williams:

“Ar ddechrau’r argyfwng byd-eang hwn, roedd Caerdydd mewn sefyllfa dda a, chyda’r ysbryd, y strategaeth, y cydweithrediadau a’r arloesedd cywir, gall ddod yn ôl yn gryfach fyth.  Wrth wneud hynny, gall ddarparu hyd yn oed mwy o fuddion i’w chymuned ei hun a’r Ddinas-ranbarth. Gall Caerdydd ffynnu ar ôl Covid, gan gynnig gwell safon bywyd i’w thrigolion ynghyd â rhaglen economaidd ar gyfer adferiad ‘gwyrdd’ sy’n seiliedig ar dechnoleg.

“Mae cyfle i Gaerdydd, wedi’i symbylu gan Covid-19, ddangos esiampl i ddinasoedd eraill o’r un maint.  Gan adeiladu ar ei chryfderau sefydledig a pharhaus, yr uchelgais sydd ganddi i lwyddo, sgiliau a dychymyg ei phobl a’r arweinyddiaeth y mae eisoes wedi’i dangos, bydd Caerdydd nid yn unig yn ‘bownsio’n ôl’ – does dim amheuaeth o hynny – bydd yn ‘bownsio ymlaen’.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas:

“Yn y dyfodol bydd gan y dinasoedd mwyaf llwyddiannus ganol dinasoedd gwych.  Mae’r cynllun gweithredu hwn yn amlinellu mentrau a rhaglenni allweddol y bydd y Cyngor a phartneriaid yn gweithio tuag atynt dros y pum mlynedd nesaf i sicrhau bod gan Gaerdydd Ganol y Ddinas sy’n wych. Mae gan Gaerdydd draddodiad cryf o weithio mewn partneriaeth â sefydliadau preifat, gwirfoddol a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus a bydd angen i’r mentrau/rhaglenni barhau i gael cyfranogiad gweithredol gan holl ddefnyddwyr canol y ddinas er mwyn cyrraedd y safonau uchaf mewn dylunio, datblygu, rheoli, cynnal a chadw a marchnata cynaliadwy. Gobeithiwn y bydd y cynllun hwn yn gwneud canol dinas gwych a bywiog hyd yn oed yn fwy felly.”

Gellir ddarllen cynllun pum mlynedd y cyngor ‘Creu Canol Prifddinas Gwych yma Issue – items at meetings – City Centre Recovery Vision (Response to City Recovery and Renewal Strategy, Mission 1: Reimagine the city centre) : Cyngor Dinas Caerdydd (moderngov.co.uk)

%d bloggers like this: