03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cynllun rhyddhad ardrethi unigryw yng nghanol dinas Casnewydd

MAE’R Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, wedi cyhoeddi cynllun rhyddhad ardrethi busnes newydd i helpu sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch canol y ddinas.

Rhoddodd y cyngor llawn ei gefnogaeth i’r cynnig y bydd busnesau cymwys yn cael gostyngiad o 25 y cant ar eu bil ardrethi ar ben rhyddhad ardrethi Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Mae’n golygu y gallai’r rhai sy’n gymwys ar gyfer cynllun Llywodraeth Cymru a chymorth y cyngor gael gostyngiad o 75 y cant yn eu biliau ardrethi busnes ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Bydd cynllun Casnewydd hefyd yn parhau yn 2023/24 i roi cefnogaeth barhaus i’r sectorau wrth iddynt wella o effaith y pandemig.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Dywedodd y Cynghorydd Mudd:

“Mae cynllun rhyddhad ardrethi lleol canol dinas Casnewydd yn unigryw ac mae’n cynrychioli buddsoddiad a ffocws sylweddol ar ein busnesau yng nghanol y ddinas.

“Mae’n adeiladu ar y cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru a fydd yn darparu mwyafswm o 50 y cant mewn rhyddhad ardrethi i bob busnes cymwys y flwyddyn nesaf.

“Nod ein cynllun newydd yw rhoi cymorth ychwanegol i ganolfannau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng nghanol y ddinas a gallai helpu tua 160 o fusnesau.

“Bydd nid yn unig yn helpu’r siopau presennol i barhau i fod yn hyfyw, ond bydd hefyd yn cynnig cymhelliant i fusnesau newydd symud i unedau manwerthu gwag.

“Nid Casnewydd yw’r unig ddinas sydd â nifer uchel o siopau gwag sy’n eiddo i berchnogion preifat yng nghanol y ddinas.

“Roeddem yn credu bod ein cynllun targedig yn ffordd wych o fynd i’r afael â’r mater hwn tra’n helpu’r busnesau hynny yng nghanol y ddinas sydd wedi wynebu sawl blwyddyn anodd iawn.

“Mae’n gyfle pwysig i gefnogi busnes, ein dinas a’n trigolion, drwy helpu’r busnesau presennol i adfer o’r pandemig ac annog busnesau newydd i ganol y ddinas.”

%d bloggers like this: