04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cynllun tai arloesol Cyngor Casnewydd yn cyrraedd rhestr fer gwobr

MAE Cyngor Dinas Casnewydd wedi cyrraedd rownd derfynol gwobrau mawreddog 2021 y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) am ragoriaeth mewn cynllunio.

Mae gwaith gan y timau cynllunio ac adfywio ar Central View yng nghanol y ddinas wedi ennill lle iddynt ar y rhestr fer am ragoriaeth mewn cynllunio yng nghategori’r cynlluniau bach.

Mae Casnewydd yn un o ddim ond dau gyngor yng Nghymru i gyrraedd rownd derfynol y gwobrau a ddenodd gynigion o bob rhan o’r DU yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat.

Mae Central View yn gynllun tai o ansawdd uchel i bobl dros 55 oed yn Commercial Street a ddatblygwyd drwy ddefnyddio cyllid gan Gymdeithas Tai Pobl, y Cyngor a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd:

“Rwy’n falch iawn o’r holl staff a weithiodd mor galed i gyflawni’r cynllun. Mae wedi trawsnewid rhan o ganol y ddinas oedd wedi mynd i gyflwr gwael ac mae’n darparu tai fforddiadwy i’n dinasyddion.

“Mae’n rhan o’n gwaith adfywio parhaus i gyflwyno ffordd fwy cymysg o ddefnyddio canol y ddinas a gwella bywydau ein trigolion.”

Dywedodd Llywydd RTPI, Wei Yang FRTPI:

“Llongyfarchiadau mawr i bawb yn rownd derfynol Gwobrau Rhagoriaeth Cynllunio RTPI eleni – mae’r prosiectau, y timau a’r unigolion hyn yn arddangos y gorau o’r proffesiwn cynllunio o holl ranbarthau a chenhedloedd yr RTPI ac o wledydd ledled y byd.

“Ers dros 40 mlynedd, mae’r gwobrau uchel eu parch hyn wedi dathlu’r gwaith eithriadol sy’n cael ei wneud gan gynllunwyr trefi. Yng nghanol pandemig byd-eang, rwy’n credu eu bod yn fwy perthnasol nag erioed o’r blaen, gan gydnabod ymrwymiad ac ymroddiad anhygoel cynllunwyr sydd wedi ymateb i her effeithiau Covid-19 ar y system gynllunio.”

Cyhoeddir yr enillwyr yn ystod seremoni rithwir ddydd Iau 29 Ebrill 2021.

Mae’r RTPI yn hyrwyddo pŵer cynllunio i greu lleoedd llewyrchus a chymunedau bywiog. Dyma’r unig gorff yn y DU sy’n rhoi statws Siartredig i gynllunwyr, y cymhwyster proffesiynol uchaf y mae cyflogwyr yn gofyn amdano. Mae’n cefnogi ei aelodau – dros 26,000 ledled y byd – drwy gydol eu gyrfaoedd.

%d bloggers like this: