03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cynllun uchelgeisiol ar gyfer tai a chymunedau yn dinas Caerdydd

YR wythnos yma, bydd y Cabinet yn ystyried strategaeth uchelgeisiol, sy’n nodi cynlluniau’r Cyngor i barhau i fynd i’r afael â’r angen am dai yn y ddinas, i uwchraddio cartrefi sy’n bodoli eisoes ac adfywio cymunedau, cynnal momentwm wrth fynd i’r afael â digartrefedd a chefnogi tenantiaid a phreswylwyr y mae’r pandemig yn effeithio arnynt.

Mae Cynllun Busnes Blynyddol Cyfrif Refeniw Tai (CRT) y Cyngor hefyd yn nodi sut y bydd yr awdurdod yn canolbwyntio ar gyflwyno prosiectau di-garboneiddio arloesol ar draws y ddinas, darparu datblygiad tai di-garbon yn Nhredelerch a chreu canolfan hyfforddi adeiladu ar y safle i hyfforddi hyd at 750 o bobl y flwyddyn a chynnig cyflogaeth neu brentisiaethau i dros 200 o bobl.

Fel un o’r 11 awdurdod cadw stoc yng Nghymru, mae gofyn i Gyngor Caerdydd gyflwyno Cynllun Busnes CRT “derbyniol” i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn, gan nodi ei ddiben a’i weledigaeth fel landlord tai cymdeithasol a sut y mae’r Cyngor yn anelu at gyflawni’r amcanion a’r safonau a nodir yn y cynllun.

Mae’r cynlluniau arbennig yn cynrychioli buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn tai a chymunedau yng Nghaerdydd gan gynnwys:

£60 miliwn ar gyfer cartrefi newydd, gan gynnwys £35 miliwn ar gyfer cynlluniau tai arloesol;

£19 miliwn ar wella cartrefi cyngor presennol;

Cwblhau’r gwaith o foderneiddio cyfadeiladau byw yn y gymuned (tai gwarchod);

Darparu tair canolfan ddigartrefedd deuluol newydd, un ganolfan asesu digartrefedd a dau brosiect mawr ar gyfer cleientiaid ag anghenion cymhleth;

Creu Timau Lleol i wella cymdogaethau a helpu trigolion i ymfalchïo yn y lle y maent yn byw ynddo a hefyd cefnogi tenantiaid a phreswylwyr y mae’r pandemig wedi effeithio’n anghymesur arnynt.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:

“Mae Cynllun Busnes y CRT eleni yn llawn prosiectau a chynlluniau uchelgeisiol i greu tai fforddiadwy o ansawdd da y mae mawr eu hangen yn y ddinas, gan wella’r stoc bresennol ac adfywio ein cymunedau fel eu bod yn lleoedd gwych i fyw ynddynt, wedi’u cysylltu’n dda ac yn gynaliadwy, gyda dylunio trefol o ansawdd uchel.

“Rydyn ni’n gosod safonau uchel i ni’n hunain. Bydd y cartrefi newydd yr ydym yn eu hadeiladu yn effeithlon iawn o ran ynni, a fydd yn helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd ac yn ein galluogi i symud tuag at ddyhead y cyngor i adeiladu i safon ddi-garbon.

“Mae’r cynnydd rydym wedi’i wneud i fynd i’r afael â digartrefedd yn y ddinas yn rhywbeth y gallwn fod yn hynod falch ohono. Mae’r cynllun newydd yn nodi sut rydym yn bwriadu adeiladu ar y llwyddiant hwn drwy greu ein cyfleusterau digartrefedd teuluol, gwasanaethau arbenigol a llety i bobl sengl sy’n ddigartref a rhoi pwyslais ar ailgartrefu cyflym.

“Mae arloesi’n thema gref drwy gydol y cynllun ac yn dilyn blwyddyn ddigynsail fel y ddiwethaf, pan fu arloesi ac addasu i wahanol ddulliau o weithio yn hanfodol er mwyn darparu gwasanaethau, mae’n hollbwysig ein bod yn parhau i gofleidio ffyrdd newydd a dyfeisgar o ddiwallu anghenion preswylwyr.

“Rydw i’n sicr bod nifer o’n gwasanaethau wedi bod yn achubiaeth i lawer o drigolion ers dechrau’r pandemig. Mae gwasanaethau fel digwyddiadau a gweithgareddau ar-lein i helpu i fynd i’r afael ag unigedd cymdeithasol, cyngor ariannol, cyngor ar waith ac ymyrraeth atebion tai ar adeg pan wynebai llawer o breswylwyr heriau anodd am y tro cyntaf, wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

“Rydyn ni’n gwybod y bydd y problemau hyn yn parhau i fod gyda ni am beth amser a byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn i helpu unigolion a theuluoedd ar draws y ddinas y mae argyfwng y coronafeirws yn effeithio’n wael arnynt.”

 

%d bloggers like this: