03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cynlluniau ar gyfer ysgol newydd yn St Edern

MAE Adran Gynllunio Cyngor Caerdydd wedi cymeradwyo cynlluniau i adeiladu ysgol gynradd newydd yn natblygiad St Edern i wasanaethu rhannau o Bontprennau a Phentref Llaneirwg, a leolir i’r dwyrain o ffordd gyswllt Pontprennau. Disgwylir i’r gwaith o adeiladu ar yr ysgol newydd olygu y bydd yn barod i’w feddiannu ym mis Medi 2022.

Bydd yr ysgol newydd yn 1 dosbarth mynediad, â lle i 210 o ddisgyblion gan gynnwys meithrinfa ran-amser â 48 lle, gyda’r cyfle i ehangu i 2 ddosbarth mynediad (420 lle) yn y dyfodol. Bydd canolfan gymunedol yn gysylltiedig â’r ysgol gyda mynedfa breifat a mynedfa gydgysylltiedig sy’n cynnig manteision i’r gymuned ehangach.

Ym mis Mawrth 2019, cytunodd Cabinet Cyngor Caerdydd ar argymhelliad i ddwyn cynlluniau ymlaen i ail fantoli’r ddarpariaeth gynradd yn rhannau o ogledd-ddwyrain Caerdydd. Roedd hyn oherwydd fod gormod o leoedd ysgol ar gael yn ardal Llanrhymni a’r angen i gael mwy o leoedd ym Mhentref Llaneirwg a rhannau o Bontprennau ar ôl cwblhau datblygiad tai St Edern.

Fel rhan o ddatrysiad strategol, cytunodd y Cabinet i archwilio cynlluniau i adleoli Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg o’i safle bresennol yn Llanrhymni.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor:

“Bydd y datblygiad yn St Edern yn arwain at gynnydd sylweddol yn y galw am leoedd mewn ysgolion yn yr ardal a bydd yr ysgol newydd yn sicrhau ein bod yn ateb y galw hwnnw.

“Yn ogystal, mae’r cynllun yn gyfle i adleoli Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg, gan roi i’r disgyblion presennol amgylchedd dysgu rhagorol, modern wrth helpu i fynd i’r afael â phroblem lleoedd gwag yn Llanrhymni, sydd wedi rhoi straen sylweddol ar gyllidebau ysgolion yn yr ardal.

“Bydd gan yr ysgol newydd ffocws cymunedol sy’n caniatáu i gymuned ehangach yr ysgol elwa o’r cyfleusterau newydd ar y safle.”

Mae St Edern yn ddatblygiad yng ngogledd-ddwyrain y ddinas fel rhan o Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Caerdydd, sy’n nodi’r seilwaith sydd ei angen i hwyluso a chynnal twf y ddinas hyd at 2026.

Cytunwyd y byddai’r ysgol yn cael ei hadeiladu gan y datblygwr, Persimmon, yn rhan o’r cytundeb cynllunio ar y cyd â’r Cyngor, a’i hariannu drwy gyfraniadau Adran 106.

Dywedodd Martin Smith, Rheolwr Gyfarwyddwr Persimmon Homes Dwyrain Cymru:

“Rydym wedi’n cyffroi gan y cyfle hwn i gynorthwyo cyflwyno Ysgol Gynradd newydd yn natblygiad St Edeyrn’s.

“Bydd yr ysgol yn ategu’r cyfleusterau cymunedol eraill sy’n cael eu darparu gan Persimmon Homes a bydd yn ganolbwynt i’n datblygiad yn St Edern.

“Mae’r datblygiad yn parhau i fod yn llwyddiant ysgubol ac mae cannoedd o deuluoedd eisoes yn mwynhau byw yno, lawer ohonynt yn brynwyr tro cyntaf ac yn cymryd eu cam cyntaf ar droed yr ysgol eiddo.

“Rydym yn parhau i ddilyn yr amserlen a byddwn yn cwblhau 450 o gartrefi newydd eraill dros y 5 mlynedd nesa.”

%d bloggers like this: