MAE dros 3000 o’r cyhoedd wedi cael dweud eu dweud ar strategaeth 10 mlynedd Caerdydd i hybu nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Roedd y rhai a ymatebodd i raddau helaeth o blaid egwyddorion a gweledigaeth Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) 2022-2032 Caerdydd a gynlluniwyd i helpu Llywodraeth Cymru i wireddu ei tharged o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050. Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried adroddiad sy’n trafod yr ymatebion pan fydd yn cyfarfod nesaf Ddydd Iau 18 Chwefror 2022.
Gwneir argymhellion i gyflwyno’rstrategaeth i’w chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Merry:
“Rwy’n falch bod cymaint o bobl wedi ymgysylltu â’r ymgynghoriad ac mae’n galonogol clywed bod y rhan fwyaf oymatebion a gafwyd yn cefnogi’r egwyddorion a’r weledigaeth a amlinellir yn y strategaeth. Mae llawer o safbwyntiau’n cydnabodCynllun cadarnhaol ac uchelgeisiol Caerdydd iddatblygu Caerdydd ddwyieithog lle mae’r Gymraeg yn iaith fyw a bywiog.
“Drwy gynyddu’r ddarpariaeth addysg Gymraeg yn gynaliadwy tuag at y targedau a nodir yn Gymraeg 2050, mae’n adlewyrchu ein huchelgais bod pob person ifanc yn cael cyfle i glywed, siarad a mwynhau’r Gymraeg. Y gobaith yw y bydd hyn yn caniatáu i bobl ifanc gofleidio’r iaith yn llawn fel rhan o’n gwead cenedlaethol a chydnabod ei lle yn nghalon Caerdydd, prifddinas Cymru.”
Un targed allweddol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yw i Gaerdydd sicrhau bod rhwng 25-29% o ddysgwyr Blwyddyn 1 yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2032. Ar hyn o bryd mae 18% o ddysgwyr Blwyddyn 1 yn cael eu haddysgu’n Gymraeg. Erbyn 2050, ledled Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i 40% o blant gael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg gyda 50% o’r plant sy’n derbyn eu haddysg drwy’r Saesneg yn nodi eu bod yn hyderus i siarad Cymraeg erbyn iddynt adael yr ysgol.
Mae’r strategaeth, a fydd yn rhedeg o 2022-2032, yn cynnwys nifer o ymyriadau i hybu’r iaith, gan gynnwys:
Tyfu ein darpariaeth gynradd ac uwchradd, sy’n cefnogi targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050;
Cefnogi’r ddarpariaeth bresennol ac ysgogi mwy o alw am addysg Gymraeg ar draws y ddinas;
Gweithio gyda phartneriaid a’r Fforwm Addysg Gymraeg i ddarparu sylfaen gref i’r Gymraeg allu tyfu a ffynnu yng Nghaerdydd.
Bywiogi’r gwaith o hyrwyddo cyfleoedd addysg drwy gyfrwng y Gymraeg (o’r blynyddoedd cynnar drwy addysg a gynhelir ac i addysg bellach ac uwch);
Gweithio gyda rhieni i ddeall y ffactorau sy’n dylanwadu wrth ddewis ysgol ar gyfer eu plentyn/plant;
Parhau i gefnogi darpariaeth Drochi ar gyfer hwyrddyfodiaid i’r iaith yng Nghaerdydd fel y gellir ystyried addysg Gymraeg fel opsiwn sydd ar gael i bob teulu;
Gweithio i gefnogi mwy o amrywiaeth yn y sector Cymraeg – gan sicrhau bod pob teulu yng Nghaerdydd yn ymwybodol ei fod yn ddewis sydd ar gael i’w plant a gweld eu hysgol leol yn adlewyrchiad o’u cymuned a’r ddinas;
Cynyddu nifer y staff addysgu a dysgu Cymraeg rhugl i gefnogi twf ac ymrwymiad parhaus i ddarparu addysg Gymraeg ac addysgu Cymraeg rhagorol yn ysgolion Caerdydd.
Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:
“Mae ein gweledigaeth newydd ar gyfer addysg a dysgu yng Nghaerdydd yn gwneud ymrwymiad clir a diamwys i ddarparu mwy o leoedd ysgol Cymraeg ac rydym eisoes wedi cymryd camau breision ymlaen yn y maes hwn gan agor ysgolion Cymraeg newydd ar draws y ddinas a sicrhau bod mwy o leoedd ar gael i ddisgyblion yn yr ysgolion presennol.
“Nid oes fawr o amheuaeth bod pobl yn dod yn fwy ymwybodol o fanteision addysg ddwyieithog, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y wybodaeth gan bob teulu i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth, a theimlo’n hyderus i ddewis addysg Gymraeg i’w plant. Mae gan ein Uned Trochi Cymraeg hanes profedig o helpu teuluoedd sy’n symud i Gaerdydd neu deuluoedd sy’n dewis symud draw o addysg Saesneg i addysg Gymraeg ran o’r ffordd trwy daith addysg y plentyn, ond mae angen i ni barhau i weithio ar hyrwyddo’r gefnogaeth sydd ar gael i rieni sydd â’u plant yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Yn olaf, mae’n rhaid i ni barhau i fod yn ymwybodol o anghenion ein holl ysgolion presennol wrth i ni gynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg. Drwy gynyddu’r ddarpariaeth mewn ffordd strategol, a chan ystyried amcanestyniadau cyfraddau geni cyfredol – sy’n rhagweld gostyngiad cychwynnol yn niferoedd disgyblion hyd at 2024 – rydym yn ceisio sicrhau bod ein holl ysgolion ar sail ariannol gadarn.”
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Cyngor Caerdydd wedi codi ac agor tair ysgol Gymraeg newydd a chynyddu capasiti mewn llawer o’i ysgolion a oedd yma eisoes. Yng nghyd-destun gostyngiad cyffredinol yn niferoedd disgyblion sy’n derbyn addysg gynradd, mae amcanestyniadau darpariaeth ysgolion presennol y Cyngor yn awgrymu y bydd y llefydd yma ynghyd â’r ddarpariaeth ychwanegol a gynlluniwyd eisoes, yn cynnig lefel gymharol uchel o lefydd dros ben ar draws ysgolion y sector Cymraeg i gefnogi twf cynaliadwy ym mlynyddoedd cynnar y cynllun deng mlynedd.
Bydd cyflawni targedau’r CSCA o gynyddu niferoedd y disgyblion sy’n gael eu haddysgu mewn ysgolion Cymraeg o 18% yn 2021 i 25-29% yn 2032 yn gofyn am fwy o leoedd ysgol Cymraeg ledled Caerdydd. Wrth i ysgolion ymateb yn gadarnhaol i’r Gwricwlwm i Gymru newydd ac ymateb i’r awydd cynyddol i allu siarad Cymraeg, rydym yn hyderus y bydd ysgolion Saesneg hefyd yn awyddus i adeiladu ar eu sgiliau iaith cynyddol gydag ysgolion yn symud i gyflwyno mwy o addysgu ar y Gymraeg gan feithrin hyder eu disgyblion i siarad a mwynhau’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.
Dwedodd y Cynghorydd Merry:
“O gofio’r amcanestyniadau poblogaeth a’r gostyngiad tebygol yn nifer y disgyblion sy’n mynd i ysgolion dros y blynyddoedd nesaf, mae angen i ni feddwl yn strategol ynghylch sut allwn sicrhau’r defnydd gorau posibl o’r holl leoedd sydd ar gael ar hyn o bryd ar draws y ddinas a’r lleoedd ychwanegol sydd eisoes wedi eu cynllunio gennym fydd ar gael yn fuan. Rydym wedi gweld twf cadarnhaol yn y nifer sy’n manteisio ar ein darpariaeth Gymraeg dros y 10 mlynedd diwethaf, ond mae angen inni edrych nawr ar ffyrdd arloesol o annog mwy o rieni i edrych ar addysg Gymraeg fel yr opsiwn gorau i’w plant er mwyn dod a mwynhau bod yn ddwyieithog yng Nghymru.
“Er gwaethaf yr amcanestyniadau poblogaeth ar hyn o bryd, mae cynlluniau i ehangu gennym ar waith i gynyddu nifer y lleoedd Cymraeg yn y sector cynradd, a fydd yn hwyluso cynnydd pellach yn nifer y plant oedran derbyn i gael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ystod cyfnod y cynllun hwn, bydd ysgol newydd hefyd yn agor i wasanaethu datblygiad tai Plasdŵr. Bydd hwn yn fodel newydd o ysgol i Gaerdydd, sy’n deillio o ysgolion llwyddiannus yng Ngwlad y Basg a helpodd i dyfu’r defnydd o’r iaith yno yn sylweddol. Yn yr ysgol dau ddosbarth mynediad hon bydd un dosbarth yn cael ei addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r dosbarth arall yn cale ei sefydlu fel dosbarth dwy iaith (Cymraeg a Saesneg). Y gobaith yw y bydd yr ysgol hon yn gweithredu fel enghraifft o arfer dda a all gefnogi ysgolion eraill i symud ar hyd y continwwm iaith er mwyn cynnig mwy o ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg maes o law.”
Cymraeg 2050 – Gofynion Llywodraeth Cymru
I gefnogi’r broses gynllunio, mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn gofyn i’r CSCAau gael eu trefnu ar sail saith deilliant sy’n adlewyrchu taith addysg dysgwr ac sy’n gyson â meysydd polisi Cymraeg 2050 ac Addysg yng Nghymru: Ein cenhadaeth Genedlaethol.
Dyma’r deilliannau:
Deilliant 1: Mwy o blant meithrin/plant tair oed yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg;
Deilliant 2: Mwy o blant dosbarth derbyn/plant pump oed yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg;
Deilliant 3: Mwy o blant yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cam o’u haddysg statudol i’r llall;
Deilliant 4: Mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau asesedig mewn Cymraeg (fel pwnc) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg;
Deilliant 5: Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau yn yr ysgol;
Deilliant 6: Cynnydd yn y ddarpariaeth Gymraeg ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn unol â’r dyletswyddau a osodir gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
Deilliant 7: Cynyddu nifer y staff addysgu sy’n gallu addysgu Cymraeg (fel pwnc) ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
Datblgiadau yn y ddarpariaeth Gymraeg yng Nghaerdydd ers 2012:
Agorodd Cylch Meithrin Pwll Coch ym mis Medi 2020.
Ehangodd Ysgol Plasmawr 1DM (30 lle) o fis Medi 2021
Gweithredu newidiadau i ddalgylch ysgolion cynradd o fis Medi 2021 i gefnogi cynaliadwyedd ysgolion Cymraeg yng Nghaerdydd.
Cynyddu maint y Ganolfan Adnoddau Arbenigol yn Ysgol Glantaf i hyd at 30 o ddisgyblion
Datblygu darpariaeth Arbenigol Cymraeg cynradd yn Ysgol Pwll Coch ac Ysgol Pen-y-Groes
Sefydlu ysgol gynradd Gymraeg newydd â 2 ddosbarth mynediad, Ysgol Hamadryad yn 2016, cyn iddi symud i adeilad ysgol newydd sbon ar safle newydd yn Butetown fis Ionawr 2019
Adeilad newydd sbon ar gyfer Ysgol Glan Ceubal, yn Ystum Taf, a gwblhawyd yn 2018
Ysgol Glan Morfa, yn y Sblot, wedi’i chodi ar safle newydd gan ddyblu’n ei maint i 2 ddosbarth mynediad yn 2018
Ehangu Ysgol y Wern i 2.5 dosbarth mynediad yn 2015 (ac yna i 3 dosbarth mynediad yn 2016).
Ehangu Ysgol Treganna, i 3 dosbarth mynediad mewn adeiladau newydd sbon, ar safle ysgol newydd yn 2013.
Ehangu Ysgol Melin Gruffydd i 2 ddosbarth mynediad yn 2012
Sefydlu Ysgol Bro Edern, ysgol uwchradd Gymraeg 6 dosbarth mynediad, yn 2012
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m