MAE cynlluniau i greu ysgol gynradd newydd yn ne Powys wedi cael sêl bendith y Cabinet, mae’r cyngor sir wedi dweud.
Mae Cyngor Sir Powys yn cynnig uno Ysgol Fabanod Mount Street, Ysgol Iau Mount Street ac Ysgol Gynradd Cradoc i greu ysgol gynradd newydd fel rhan o gynlluniau Trawsnewid Addysg gyffrous ar gyfer ardal dalgylch Aberhonddu.
Byddai’r ysgol newydd yn gweithredu ar y tri safle presennol i ddechrau, cyn symud i adeilad newydd sbon yn Aberhonddu, a fydd yn darparu cyfleusterau newydd sbon yr 21ain ganrif i ddisgyblion.
Y dyddiad targed ar gyfer sefydlu’r ysgol gynradd newydd yw mis Medi 2023, a disgwylir y bydd disgyblion yn symud i’r adeilad newydd yn ystod 2025/26.
Mis Rhagfyr y llynedd, rhoddodd y Cabinet ei sêl bendith i gyhoeddi hysbysiad statudol ffurfiol ar gyfer uno’r tair ysgol. Cyhoeddwyd hwn ym mis Ionawr a derbyniwyd dros 110 o wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod gwrthwynebu.
Dydd Gwener, 11 Mawrth, derbyniodd ac ystyriodd y Cabinet yr adroddiad gwrthwynebu a chymeradwyodd y cynnig i uno’r tair ysgol i greu ysgol gynradd newydd.
Bydd y cynlluniau’n helpu’r cyngor i wireddu ei Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys, strategaeth uchelgeisiol dros ddeng mlynedd a gymeradwywyd yn 2020.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet dros Addysg ac Eiddo:
“Ar ôl pwyso a mesur y gwrthwynebiadau’n ofalus, cymeradwyodd y Cabinet y cynnig i uno Ysgol Fabanod Mount Street, Ysgol Iau Mount Street ac Ysgol Gynradd Cradoc i greu ysgol gynradd newydd.
“Rydym wedi ymrwymo i drawsnewid profiadau’r dysgwyr a hawliau ein dysgwyr ac fe wnawn gyflawni hyn trwy wireddu ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys 2020-2030.
“Fel rhan o’n Gweledigaeth 2025, rydym hefyd wedi ymrwymo i ddarparu cyfleusterau o’r radd orau lle bydd ein dysgwyr a’n hathrawon yn gallu ffynnu a chyrraedd eu potensial. Credwn fod ein cynlluniau cyffrous i sefydlu ysgol gynradd newydd yn ardal Aberhonddu, gyda’r bwriad i symud i adeilad newydd yn y dyfodol, yn dangos yr ymrwymiad hwn.
“Rwy’n credu y bydd ein cynlluniau cyffrous ar gyfer dalgylch Aberhonddu yn darparu cyfleusterau a chyfleoedd llawer gwell i ddysgwyr, a bydd yn ein helpu ni wireddu ein strategaeth a gwella hawliau a phrofiadau dysgwyr y dyfodol.”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m