03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cynlluniau cyfleusterau cymunedol newydd yn Cosy Cornel Porthcawl

MAE cynlluniau ar gyfer buddsoddi mewn cyfleusterau cymunedol newydd yn Cosy Cornel ym Mhorthcawl wedi symud gam yn nes ar ôl i Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gytuno i roi £1m cyfatebol i gyllid Llywodraeth Cymru gyda buddsoddiad ychwanegol o bron i £385,000.

Mae’r ymrwymiad yn dilyn cyflwyno cais i Croeso Cymru a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru o dan y rhaglen Cyrchfannau Atyniadau Twristiaeth, ac mae’n rhan hanfodol o broses asesu naw cam.

Gyda chwech o gamau eisoes wedi’u cwblhau, bu’n rhaid cadarnhau’r arian cyfatebol er mwyn galluogi’r cais i symud ymlaen ymhellach.

Mae’r cyngor hefyd wedi cytuno i gynnal ymarfer caffael ar gyfer penodi penseiri er mwyn cwblhau gweddill y camau, a rhoi mwy o sicrwydd ynghylch materion fel costau.

Meddai Cynhorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio:

”Rwy’n llwyr gefnogi hyn gan y bydd yn galluogi darpariaeth o gyfleusterau cymunedol newydd a fydd o fudd i breswylwyr, ymwelwyr a thwristiaid fel ei gilydd. Er bod disgwyliadau realistig yn parhau i fod yn hanfodol, rydym wedi datblygu ystod o gynigion uchelgeisiol ar gyfer sut y gellid defnyddio’r safle, a byddwn yn trefnu cyfle i bobl wneud sylwadau arnynt yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Mae’r rhain yn cynnwys sefydlu ardal chwarae i blant o ansawdd uchel i ategu atyniadau cyfagos, creu man perfformio awyr agored newydd gyda seddau a thirlunio, darparu cyfleusterau i’w defnyddio gan sefydliadau cymunedol fel Cadetiaid y Môr, adeiladu adeiladau newydd sy’n addas ar gyfer mentrau manwerthu bach a newydd, a sefydlu cyfleusterau storio a newid i ddefnyddwyr y marina cyfagos.

Bydd ein cynigion yn sicrhau bod Cosy Cornel yn parhau i fod yn rhan bwysig o’r amgylchfyd cyhoeddus, ac yn lleoliad eiconig o fewn yr ardal glan y môr. Rydym am iddo gefnogi nid yn unig ein cynlluniau adfywio ein hunain ar gyfer y Llyn Halen a’r ardaloedd promenâd, ond i ategu prosiectau adfywio eraill yn y dref fel y marina newydd, amddiffynfeydd môr newydd, Adeilad Jennings sydd newydd ei adfer, y gwelliannau sydd i ddod i forglawdd y Dwyrain a mwy.”

 

%d bloggers like this: