09/17/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cynlluniau gwerth £3m ar gyfer gwelliannau rwydwaith teithio llesol a llwybrau diogel

MAE Cyngor Bwrdeistref Sirol wedi datgelu cynlluniau ar gyfer gwelliannau ledled ei rwydwaith teithio llesol a llwybrau diogel ar ôl cael dros £3m o gyllid ar gyfer 2021-22.

Mae hyn yn cynnwys £1.8m o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ar gyfer ail gam y llwybr teithio llesol o Ben-y-bont ar Ogwr i Bencoed.

Mae gwelliannau wedi’u cynllunio ar gyfer cyffordd Ffordd Caerefrog/Ffordd y Bont-faen a bydd gwaith yn cael ei wneud ar y llwybrau sy’n cysylltu Waterton gyda chanol tref Pen-y-bont ar Ogwr ar hyd Ffordd Caerefrog, lle mae ymarfer ymgysylltiad â’r cyhoedd newydd ddod i ben, Felindre a Choleg Pencoed a chylchfan Llangrallo.

Ar ôl iddo gael ei gwblhau, bydd y llwybr yn cynnig cysylltiad esmwyth rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Phencoed, gyda’r potensial i wella mynediad teithio llesol i fusnesau, ysgolion, colegau a gorsafoedd rheilffordd.

Yn ychwanegol, mae cynlluniau i greu llwybr mwy diogel ar gyfer disgyblion, rhieni a staff sy’n cerdded neu’n beicio i ysgolion cynradd Llidiart a Choety dan raglen cynllun mynediad cymunedol Coety.

Bwriedir gwneud gwelliannau a gwella’r goleuadau ar gyfer y bont droed dros y rheilffordd yn St Georges Avenue, a bydd palmant a man croesi newydd yn cael eu creu ar Heol Simonston. Mae cynlluniau hefyd i osod arwyddion terfynau cyflymder ac ail-wynebu llwybrau cerdded.

Bydd y cynllun yn cysylltu â rhwydwaith teithio llesol ehangach y fwrdeistref sirol ac yn anelu at annog teithio llesol i Ysgol Gynradd Llidiart, Ysgol Gynradd Coety a gorsaf reilffordd Melin Wyllt, ac o fewn pentref Coety.

Yn y cyfamser, disgwylir i’r gwaith ddechrau ar welliannau i’r llwybr teithio llesol rhwng y Pîl a Phorthcawl.

Mae’r rhain yn cynnwys croesfannau ffyrdd newydd, gwaith ail-wynebu bach, cyflyno parth 20mya a mesurau tawelu traffig.

Bwriedir gwelliannau ar gyfer beicwyr a cherddwyr sy’n teithio rhwng Betws a llwybr Parc Gwledig Bryngarw, a fydd yn eu helpu i gysylltu â’r rhwydwaith ehangach.

Disgwylir i astudiaethau dichonoldeb gael eu cynnal i gysylltiadau teithio llesol rhwng cylchfannau Llangrallo a Waterton, Ysbyty Tywysoges Cymru a chanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, Pontycymer a Betws, a Choleg Pencoed i Rondda Cynon Taf, a godwyd gan drigolion a gymerodd ran yn ymgynghoriad teithio llesol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gynharach eleni.

Mae’r cyngor hefyd yn cynnal archwiliad o groesfannau i gerddwyr mewn ardaloedd sy’n peri pryder a grybwyllir yn yr ymgynghoriad.

Am ragor o wybodaeth am deithio llesol, ewch i wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

%d bloggers like this: