04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cynlluniau i adeiladu tai cyngor newydd yn Nhretomos a Threcenydd

MAE Pwyllgor Cynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo cynlluniau yn ystod cyfarfod o bell a gynhaliwyd ar 3 Mawrth i ddatblygu’r safleoedd yn Nhretomos a Threcenydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £3.1 miliwn i ariannu’r gost datblygu ac arloesi trwy’r Rhaglen Tai Arloesol.

Bydd y datblygiad yn Nhretomos wedi’i leoli yn Lôn-y-de Rhodfa Llanfabon a bydd 12 fflat ag un ystafell wely newydd yn cael eu hadeiladu, ynghyd â mannau awyr agored wedi’u tirlunio a lleoedd parcio.

Bydd safle’r hen 49 Club yn Nhrecenydd yn cael ei ddatblygu i fod yn 6 fflat ag un ystafell wely newydd, ynghyd â mannau amwynder allanol perthnasol a lleoedd parcio.

Bydd tai newydd ar y ddau safle yn cael eu hadeiladu i fodloni safon PassivHaus; sy’n cynnwys lefelau uchel iawn o insiwleiddio, ffenestri perfformiad uchel iawn gyda fframiau wedi’u hinsiwleiddio, deunydd adeiladu seliedig, a system gwresogi ac awyru fecanyddol. Yn ogystal â helpu lleihau allyriadau carbon, bydd yr adeiladau hyn yn arwain at gostau ynni isel i denantiaid a chyfrannu at ateb y galw am dai yn y Fwrdeistref Sirol.

Dywedodd y Cynghorydd Lisa Phipps, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai ac Eiddo:

“Mae hwn yn gam hynod gyffrous i ni fel Cyngor o ran dechrau gwireddu ein rhaglen adeiladau newydd uchelgeisiol. Er bod y safleoedd hyn yn fach, byddan nhw’n darparu fflatiau ag un ystafell wely y mae mawr eu hangen ar hyn o bryd yn y Fwrdeistref Sirol.

“Bydd ein dull o ddefnyddio cadwyni cyflenwi lleol a dulliau adeiladu arloesol hefyd yn ein galluogi ni i ddarparu manteision ehangach i’r Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a chreu swyddi a chyfleoedd hyfforddi i bobl leol.”

Mae Willmott Dixon wedi’i benodi’n bartner cyflenwi’r Cyngor. Bydd y fframiau dur a defnyddir wrth adeiladu yn cael eu gweithgynhyrchu ym Mwrdeistref Sirol Caerffili gan Caledan Ltd, yn Ystâd Ddiwydiannol Penallta.

Nododd Andrew Dobbs, Cyfarwyddwr Willmott Dixon:

“Rydyn ni’n falch o bartneru gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ddarparu’r tai hyn. Mae’n wych gweld bod y Cyngor yn rhoi newid hinsawdd wrth wraidd ei raglen adeiladu newydd. Nid yn unig y bydd y tai hyn yn helpu amddiffyn yr amgylchedd, byddan nhw hefyd yn gost isel i’w cynnal.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y datblygiadau hyn yn gosod safon newydd ar gyfer cartrefi carbon isel yn y Fwrdeistref Sirol a, thrwy weithio gyda’n cadwyn cyflenwi leol, byddan nhw’n paratoi’r ffordd ar gyfer llawer mwy o gynlluniau cynaliadwy yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Chris Morton, Prif Weithredwr Caledan“

“Rydw i a’r tîm yn Caledan yn falch iawn o fod yn rhan o helpu darparu tai arloesol o ansawdd uchel i bobl Caerffili gyda Chyngor Caerffili a Willmott Dixon. Bydd y cynllun hefyd yn helpu’r gymuned leol, nid yn unig o ran sicrhau swyddi presennol ond hefyd o ran darparu rhagor o gyfleoedd cyflogaeth.”

%d bloggers like this: