04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cynlluniau i fuddsoddi £40m ar gyfer ysgolion ledled Caerffili

FE allai pecyn o gynigion buddsoddi cyffrous, a fydd yn helpu trawsnewid ysgolion ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili, gael eu cymeradwyo yr wythnos nesaf.

Bydd Cabinet y Cyngor yn cyfarfod ddydd Mercher 7 Ebrill i ystyried nifer o adroddiadau allweddol sy’n nodi cynigion uchelgeisiol ar gyfer cam nesaf y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif, sydd werth miliynau o bunnoedd.

Yn gyntaf ar y rhestr mae cynlluniau mawr i drawsnewid dyfodol dau safle ysgol allweddol yn llwyr o dan gynigion Band B y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif:

Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae’r Drindod – gwaith sydd werth £12.5 miliwn i ehangu’r ysgol a chanolfan adnoddau bresennol, gan gynnwys estyniad newydd a lle chwarae awyr agored. Byddai’r buddsoddiad yn darparu rhagor o leoedd yn yr ysgol flaenllaw hon i ddisgyblion ag anghenion sylweddol.

Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon – gwaith sydd werth £9.6 miliwn i symud yr ysgol bresennol i gyfleuster darpariaeth Gymraeg, pwrpasol, newydd ar safle gwag hen Ysgol Uwchradd Cwmcarn.

“Y cynigion hyn yw’r cam diweddaraf yn ein Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif hynod lwyddiannus, sydd eisoes wedi cyflawni datblygiadau gwych sydd werth cyfanswm o £56.5 miliwn. Ymhlith y rhain mae Ysgol Uwchradd Islwyn, Ysgol y Gwyndy ac Ysgol Idris Davies,” meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Philippa Marsden.

“Mae gennym ni hanes o gyflawni prosiectau rhagorol fel rhan o’r Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif, ac rwy’n edrych ymlaen at ystyried y cynigion newydd hyn a allai ddod â llawer o fanteision i’n disgyblion ni yn y dyfodol.”

Bydd gofyn hefyd i’r Cabinet gytuno i fwrw ymlaen â cham nesaf y rhaglen Band B. Mae tri phrosiect wedi’u nodi fel rhan o Gam 2, sef:

£5.5m Canolfan i Ddysgwyr Agored i Niwed – Cynnig i addasu ac adnewyddu hen adeilad ysgol ramadeg (hen Ysgol Uwchradd Pontllan-fraith) ar gyfer darparu canolfan newydd, addas i’r pwrpas, i ddysgwyr agored i niwed ledled yr ardal.

£4m Ysgol Iau Llancaeach ac Ysgol Fabanod Llanfabon – Cynnig i gyfuno’r ddwy ysgol trwy ehangu ac adnewyddu safle presennol Ysgol Fabanod Llanfabon. Fe allai’r Ysgol Gynradd newydd gynnig 275 o leoedd i ddisgyblion ynghyd â meithrinfa.

£9m Ysgol Gynradd Plasyfelin – Cynnig i adeiladu ysgol newydd a mwy ar dir ar safle presennol yr ysgol, ar gyfer ateb y galw rhagamcanol yn yr ardal yn y dyfodol. Fe allai’r ysgol newydd ddarparu 420 o leoedd i ddisgyblion ynghyd â meithrinfa.

Meddai’r Cynghorydd Ross Whiting, Aelod Cabinet dros Addysg:

“Mae gennym ni uchelgeisiau beiddgar i roi’r cyfleoedd bywyd gorau i bob dysgwr, ac rydyn ni wedi ymrwymo i wneud hyn trwy ddarparu addysgu, dysgu ac arweinyddiaeth o ansawdd uchel ar draws ein hysgolion.”

Mae’r Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yn rhaglen buddsoddi cyfalaf sylweddol, hirdymor a strategol, sy’n cael ei hariannu ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Mae’r Rhaglen hefyd yn cyfrannu at Fframwaith Llesiant a Llunio Lleoedd y Cyngor o ran buddsoddi ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.

%d bloggers like this: