04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cynlluniau i gynhyrchu un filiwn fwy o fasgiau’r dydd yng Nghaerdydd

MAE Cymru mewn sefyllfa gryfach o lawer i ddarparu cyfarpar diogelu personol hanfodol oherwydd y cysylltiadau sydd gennym dramor ac oherwydd ein bod yn gallu gwneud pethau yma yng Nghymru, yn ôl Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters.

Daw’r cyhoeddiad hwn wrth i gwmni gweithgynhyrchu Hardshell ddod â pheiriannau gwneud masgiau llawfeddygol i mewn i Gymru er mwyn creu ffatri newydd yng Nghaerdydd a fydd yn cynhyrchu hyd at filiwn o fasgiau wyneb atal hylif y dydd ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a gweithwyr allweddol eraill yng Nghymru ac yng ngweddill y DU.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio’n agos â Hardshell ac wedi cynorthwyo’r cwmni gyda’r trefniadau i gludo’r peiriannau o dramor i Gaerdydd.

Daw’r newyddion hyn ar ôl i’r llwyth diweddaraf o gyfarpar gael ei hedfan i mewn i Faes Awyr Caerdydd o Tsieina ddoe. Cafodd rhyw 600,000 o ynau atal hylif ac 1.2 miliwn o fasgiau llawfeddygol eu hedfan i mewn i’r Rhws a’u cludo’n syth i storfeydd y byrddau iechyd a’r awdurdodau lleol er mwyn cael eu dosbarthu i’r rheng flaen.

Mae’r cyfarpar hwn yn ychwanegol i’r hanner miliwn o ynau atal hylif a gludwyd ar awyren siartredig i faes awyr y brifddinas ddechrau Mai ar gais uniongyrchol GIG Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda mwy na 300 o fusnesau ym mhob cwr o Gymru i gynhyrchu cyflenwadau mewn ymateb i’r coronafeirws, gan gynnwys cyfarpar diogelu personol.

Mae Hardshell bellach yn rhan o restr sylweddol o gwmnïau sydd wedi ymateb mewn ffordd gadarnhaol i alwad Prif Weinidog Cymru i weithgynhyrchwyr ymuno yn yr ymdrech genedlaethol i gefnogi gweithwyr gofal iechyd ac i drechu’r coronafeirws.

Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters:

“Mae busnesau’n gwneud ymdrech aruthrol i’n helpu i drechu’r coronafeirws ac i sicrhau bod gennym gyflenwad hirdymor o eitemau diogelu personol hanfodol er mwyn gwarchod staff gofal iechyd y rheng flaen yng Nghymru, ac er mwyn gwarchod gweithwyr allweddol a llawer mwy o bobl ar draws y DU.

“Mae’r cyfraniad sylweddol sy’n cael ei wneud gan gwmnïau o Gymru a’r egni sydd ganddyn nhw i fodloni’r galw wedi bod yn gwbl wych, a dw i am ddiolch i bob un o’r cwmnïau am bopeth maen nhw’n ei wneud.

“Hardshell yw’r cwmni diweddaraf i ymuno yn yr ymdrech genedlaethol, ac mae’r ffaith ei fod yn bwriadu gwneud miliwn o fasgiau wyneb bob dydd yn wirioneddol ryfeddol. Bydd y gwaith y bydd yn ei wneud i gynhyrchu masgiau wyneb atal hylif yn hollbwysig er mwyn cefnogi pobl a helpu i achub bywydau. Mae dirfawr eu hangen a gwyddwn fod galw aruthrol a chyson amdanyn nhw oherwydd bod angen eu newid yn aml.

“Rydyn ni hefyd wedi gweld cannoedd o filoedd o gyflenwadau’n cael eu hedfan i mewn i Faes Awyr Caerdydd y mis hwn, a bydd y cyflenwadau hynny’n hanfodol er mwyn cefnogi’r bobl hynny sydd yn y rheng flaen.

“Drwy gydweithio, a thrwy wneud hynny ar fyrder, mae Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i gludo nwyddau a chyfarpar angenrheidiol o dramor a dod â nhw’n ddiogel i Gymru. Oherwydd y llwyddiant hwnnw, rydyn ni hefyd yn gallu cynnig cymorth i rannau eraill o’r DU lle mae prinder adnoddau o’r fath.”

%d bloggers like this: