04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cynnal arolwg Gwenoliaid Duon i roi hwb i adar Caerdydd

GOFYNNIR i drigolion Caerdydd helpu i hyfforddi fel ‘arolygwyr gwenoliaid duon’ i helpu i ddiogelu poblogaeth gwenoliaid duon Cymru sy’n gostwng, tra’n cysylltu â byd natur a’u cymuned leol.

Bydd Arolwg Gwenoliaid Duon Caerdydd yn helpu i ddiogelu’r adar mudol hyn, y mae eu niferoedd wedi gostwng bron 70% yng Nghymru ers 1995, drwy sicrhau help gan arolygwyr i fapio nythfeydd yn eu hardal leol.

Mae’r arolwg yn cael ei gynnal gan aelodau Partneriaeth Gwenoliaid Duon Bae Caerdydd (Clwb Adar Morgannwg, Awdurdod Harbwr Caerdydd ac RSPB Cymru) a sefydlwyd yn 2017 gyda grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Dywedodd Angela Munn, Rheolwr Prosiectau yn RSPB Cymru:

“Bob gwanwyn, mae gwenoliaid duon yn teithio  6,000 milltir o Affrica i’r DU, lle maent yn nythu er mwyn bridio. Ond mae moderneiddio adeiladau wedi dinistrio safleoedd nythu, fel bargodion a bylchau o dan deils to, ac os bydd y niferoedd yn parhau i ostwng ar y gyfradd bresennol, gellid colli’r wennol ddu fel aderyn sy’n bridio yng Nghymru cyn pen dau ddegawd.”

Nid oes angen profiad o arolygu, gan y rhoddir hyfforddiant ar-lein am ddim gan dîm Rhoi Cartref i Fyd Natur Caerdydd a Chlwb Adar Morgannwg ddydd Mercher Mai 19 rhwng 19:00 a 20:00.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:

“Mae’r tŵr gwenoliaid, sydd wedi’i osod ar Forglawdd Bae Caerdydd i helpu i roi cartrefi y mae mawr eu hangen i wenoliaid ddychwelyd iddynt bob blwyddyn, yn un o nifer o gamau rydym wedi’u rhoi ar waith gyda’n partneriaid i helpu i roi cartref i fyd natur yng Nghaerdydd.”

“Mae casglu gwybodaeth am safleoedd nythu eraill yn mynd i fod yn hanfodol ar gyfer diogelu nythfeydd gwenoliaid yn y dyfodol, ond mae hwn hefyd yn gyfle gwych i bobl gysylltu â’r natur sydd ar garreg eu drws, a chyda’u cymuned leol.”

%d bloggers like this: