04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cynnal arolwg o brydau bwyd ysgol am ddim

Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn gofyn i rieni, gofalwyr a phlant am eu hadborth ar y parseli bwyd a ddarparwyd gan y Cyngor i ddisgyblion sy’n gymwys am brydau bwyd ysgol am ddim yn ystod pandemig Covid-19.

Ar adegau pan mae disgyblion wedi bod yn dysgu gartref, mae’r cyngor wedi bod yn gweithio gyda’r Real Wrap Company i ddarparu parsel bwyd wythnosol yn cynnwys digon o eitemau brecwast a chinio ar gyfer pum diwrnod i oddeutu 5,000 o blant.

Erbyn hyn, mae ysgolion yn anfon arolwg at rieni a gofalwyr ac arolwg ar wahân i blant a phobl ifanc i ofyn iddynt am eu safbwyntiau ynghylch y parseli a’r eitemau ynddynt. Byddant yn cymryd oddeutu pum munud i’w cwblhau.

Mae ragor o wybodaeth ynghylch y parseli bwyd ar dudalen we y cyngor.

Meddai Cyng. Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio:

”Mae darpariaeth uniongyrchol parseli bwyd i ddisgyblion sy’n gymwys am brydau bwyd ysgol am ddim wedi helpu i sicrhau nad yw plant yn mynd heb fwyd tra eu bod yn dysgu gartref yn ystod y pandemig.

I sicrhau bod gennym y system orau bosibl ar waith, rydym eisiau gwybod beth yw barn rhieni, gofalwyr a phlant am y parseli bwyd, ac a ellir eu gwella ai peidio.

Byddwn yn eu hannog i ddweud eu dweud a chymryd rhan yn yr arolygon, a fydd yn cael eu cylchredeg gan ysgolion.”

Mae’r parseli bwyd cyfredol yn ystyried gofynion dietegol penodol, ac yn defnyddio cyflenwyr o Gymru pryd bynnag mae hynny’n bosibl. Maent yn cynnwys eitemau megis tatws drwy’u crwyn, pupurau, afalau, orennau, pasta penne a macaroni, saws pasta, cous cous, sawsiau tomato a tshili melys, rafioli, ffa pob, cawl, llefrith, jam, uwd, sudd oren a phwdinau megis pwdin reis, jeli neu gwstard.

Mae’r parseli hefyd yn cynnwys cardiau ryseitiau ‘sgiliau bywyd’ i annog plant ac oedolion i baratoi prydau gyda’i gilydd, dysgu am faetheg a mwy.

 

%d bloggers like this: