04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cynnydd yn Cyflog Byw ar gyfer staff GIG Cymru

MAE Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol men datganiad ysgrifenedig wedi cyhoeddi codiad cyflog drops drop i weithwyr ar y cyflog isaf GIG Cymru.

Dywedodd y Gweinidog:

“Mae’n bleser gennyf gyhoeddi fy mod wedi cytuno i gyllido a gweithredu codiad cyflog dros dro i’n gweithwyr GIG Cymru sydd ar y cyflog isaf, ac sy’n cael eu cyflogi ar delerau ac amodau gwasanaeth yr Agenda ar gyfer Newid.

Bydd fy mhenderfyniad yn golygu codi eu cyflogau i £9.90 yr awr o 1 Ebrill 2022, yn unol â’r raddfa a argymhellir yn annibynnol gan y Living Wage Foundation. Mae hyn yn sicrhau y bydd GIG Cymru yn parhau i fod yn gyflogwr Cyflog Byw gwirioneddol.

Daw’r ymyrraeth hon cyn argymhellion Corff Adolygu Cyflogau y GIG a’n hymateb ninnau i’r argymhellion hynny. Byddwn yn ailedrych ar y pwyntiau cyflogau hyn pan ddaw dyfarniad cyflog llawn yr Agenda ar gyfer Newid yn hysbys. Wrth ddyfarnu cyflogau ar gyfer 2022-23, cynyddir cyflogau ond gan unrhyw swm sy’n ddyledus nad sydd wedi ei roi eisoes drwy’r codiad cyflog dros dro. Bydd y swm ychwanegol hwn yn cael ei ôl-ddyddio i 1 Ebrill 2022.

Mae’r penderfyniad hwn yn sicrhau bod holl gyflogwyr GIG Cymru yn parhau i fod yn gyflogwyr Cyflog Byw. Mae hyn hefyd yn dangos ymhellach ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r agenda trechu tlodi yn ehangach. Mae cyflog isel yn broblem sylweddol i lawer o deuluoedd yng Nghymru ac, yn anffodus, mae’r heriau o dlodi mewn gwaith yn parhau wrth inni wynebu’r argyfwng costau byw presennol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio mewn partneriaeth â’n cydweithwyr undebau a chyflogwyr yn y GIG i sicrhau codiad cyflog teg a fforddiadwy i staff y GIG yng Nghymru drwy’r broses corff adolygu cyflogau annibynnol ar gyfer 2022-23.”

%d bloggers like this: