04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cystadleuaeth Llysgenhadon Ifanc ysbrydoli pobl ifanc i fod yn egnïol

Mis diwethaf fe wnaeth mwy na 1,200 o bobl ifanc ledled y fwrdeistref sirol gymryd rhan mewn her ‘milltir y dydd’ a drefnwyd gan Lysgenhadon Ifanc Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r rhaglen Llysgenhadon Ifanc yn gweld disgyblion ysgolion uwchradd yn gweithio gydag adran Pobl Ifanc Egnïol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol i gefnogi eu hiechyd a’u lles.

Er mwyn annog plant i fynd allan i’r awyr iach ar adeg pan oedd cyfyngiadau’r cyfnod clo yn dal mewn grym, penderfynodd y Llysgenhadon Ifanc osod her Milltir y Dydd ym mis Mawrth.

Cafodd pobl ifanc rhwng 3 a 18 oed eu herio i gerdded neu redeg milltir bob dydd a chofrestrodd mwy na 1,200 ar draws y fwrdeistref sirol.

Cofnododd y cyfranogwyr eu milltiroedd gan ddefnyddio apiau am ddim a chawsant i gyd eu cynnwys mewn raffl fawr gyda’r cyfle i ennill oriawr Apple neu feic. Yr enillwyr cyffredinol oedd Phoebe Liana Jones, Tomos Norbury, Dan Grandl a Alexander Hodge, a chafodd yr holl gyfranogwyr dystysgrif.

Goruchwyliodd wyth Llysgennad Ifanc yr holl broses, gan sefydlu gwefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol, a hyd yn oed llwyddo i sicrhau nawdd hael gan KKSolutions, busnes dylunio ac argraffu lleol.

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Ian Jessopp: “Gwnaeth y Llysgenhadon Ifanc argraff fawr arnaf ac roeddwn yn hapus iawn i gefnogi menter mor dda yn annog cymaint o bobl ifanc ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i wella eu hiechyd a’u lles.”

Dywedodd Shannie Bowen, sydd yn ei thrydedd flwyddyn o fod yn Llysgennad Ifanc ac a chwaraeodd ran allweddol wrth drefnu’r her:

“Fe wnaethon ni benderfynu ar yr her hon i helpu i hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol da mewn pobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig mewn sawl ffordd.

“Fe wnaethon ni sylwi bod lefelau gweithgarwch corfforol wedi gostwng yn ystod y pandemig ac roeddem ni’n teimlo ei bod hi’n bwysig i annog pobl i deimlo’r buddion o fynd allan a mwynhau rhywfaint o awyr iach.

“Fel Llysgennad oedd yn arwain yr her, doeddwn i ddim yn disgwyl i’r ymgysylltiad fod mor uchel. Roeddem i gyd yn deall bod rhieni’n gweithio ac yn dysgu’r plant gartref, felly byddai mynd allan yn her ond rydym yn falch iawn o’r ymrwymiad a ddangoswyd gan bob unigolyn.

“Mae hefyd wedi bod yn wych gweld yr effaith gadarnhaol a gafodd ar y rhai oedd yn cymryd rhan, yn enwedig gyda rhieni a theuluoedd yn ymuno i gefnogi’r cyfranogwyr.”

Meddai un arall o’r Llysgenhadon Ifanc Xander Payne, sydd hefyd wrthi’n datblygu podlediad ar gyfer pobl ifanc:

“Fel arfer, rydym ni wedi ein lleoli yn ein hysgolion a’n cymunedau lleol ac yn cynnal digwyddiadau, weithiau ochr yn ochr â grwpiau cymunedol, felly roedd yn rhaid i ni feddwl am ffyrdd newydd o gael pobl i fod yn egnïol yn ystod y cyfnod clo.

“Roedd gennym gystadlaethau ar wahân ar gyfer ysgolion ac unigolion. Cofrestrodd rhai dosbarthiadau cyfan a chymryd rhan yn ystod oriau’r ysgol fel rhan o weithgareddau corfforol. Fe wnes i fwynhau’r her yn ofnadwy – gwnes fy milltir gyflymaf pan gawsom ein dal mewn storm. Rydym yn gobeithio y bydd y rhai wnaeth gymryd rhan yn dal ati i fod yn egnïol ymhell wedi i’r gystadleuaeth ddod i ben.”

Dywedodd Maxine Boobyer o Adran Pobl Ifanc Egnïol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

“Mae’r adborth a gawsom yn anhygoel gyda llawer o deuluoedd yn dewis parhau i wneud milltir y dydd ar ôl i’r her ddod i ben.

“Rydym ni wrth ein boddau ac yn falch iawn o’n Llysgenhadon Ifanc ac rydym ni’n edrych ymlaen at weld pa syniadau maen nhw’n eu cynnig nesaf.”

Mae’r rhaglen Llysgenhadon Ifanc yng Nghymru yn cael ei rhedeg mewn partneriaeth rhwng Chwaraeon Cymru, yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid a’r tîm datblygu chwaraeon ym mhob awdurdod lleol. Mae’n cael ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol.

Yn awyddus i wneud gwahaniaeth mewn cymunedau lleol ac ar lefel genedlaethol, mae pobl ifanc yn creu ac yn cyflwyno cyfleoedd i’w cyfoedion a hyd yn oed oedolion fod yn egnïol yn gorfforol trwy chwaraeon. Yn ei thro, mae’r rhaglen yn rhoi hyder a sgiliau i bobl ifanc i fod yn arweinwyr chwaraeon y dyfodol.

%d bloggers like this: