10/06/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyswllt Ffermio yn benderfynol o estyn allan at ferched sy’n ffermio

MAE nifer y merched sydd wedi’u cofrestru gyda Cyswllt Ffermio yn llai na hanner nifer y dynion sydd wedi cofrestru.  Mae’n gymhareb y mae Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, yn benderfynol o fynd i’r afael â hi.

“Gyda chymaint o ferched yn gweithio gartref ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau Covid-19, mae Cyswllt Ffermio yn benderfynol o estyn allan at y garfan yma sydd weithiau’n dawel, arwyr cydnabyddedig nifer o fusnesau gwledig llwyddiannus, a’u hannog i gofrestru’n bersonol gyda Cyswllt Ffermio, fel y gallwn eu cefnogi nhw hefyd.

“Yn aml iawn, y partner gwrywaidd yn y busnes yw’r unigolyn a enwir wrth gofrestru, felly dim ond yr unigolyn hwnnw sy’n derbyn ein gwahoddiadau, y cyhoeddiadau a’r holl wybodaeth a chanllawiau sy’n eu helpu i gadw i fyny gyda’r arloesedd, y dechnoleg newydd a’r arfer gorau sydd ar gael.

“Mae gennym amrywiaeth mor gynhwysfawr o wasanaethau mentora, cymorth, canllawiau a hyfforddiant, a darperir llawer ohonynt gyda chynnwys a fformat a fydd yn fuddiol iawn ac yn hygyrch i lawer o ferched.”

Mae Mrs. Williams am i bawb yn y garfan benodol hon gysylltu â’u swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol, a fydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am yr hyn sydd ar gael yn ystod y cyfyngiadau symud, a’u helpu hefyd i gofrestru.   Mae cofrestru yn broses gyflym y gellir ei chwblhau gyda’n swyddogion datblygu, neu ar-lein drwy fynd i wefan Cyswllt Ffermio neu drwy ffonio’r Ganolfan Wasanaeth ar 08456 000 813.

“Yn y cyfnod digynsail a heriol iawn, rydym yn gwybod bod llawer o ferched yn gweithio gartref erbyn hyn, yn gorfod addasu i weithio gartref, yn aml yn ceisio cydbwyso’r dyletswyddau o fod yn wraig neu bartner, rhiant, athro ysgol ac weithiau gweithiwr fferm hefyd, ond mae cymaint y gallwn ei wneud i’w helpu os byddant yn cysylltu â ni’n uniongyrchol,” meddai Mrs Williams.

Mae Agrisgôp, sef rhaglen ‘dysgu gweithredol’ hynod lwyddiannus Cyswllt Ffermio sy’n annog grwpiau o unigolion o’r un anian i ddod at ei gilydd mewn amgylchedd wedi’i hwyluso i ddatblygu syniadau busnes, wedi helpu cannoedd o unigolion ers i’r rhaglen gael ei sefydlu yn 2003.  Ar hyn o bryd mae’r fenter yn cynnwys nifer o grwpiau ‘merched yn unig’ yn ogystal â nifer o rai eraill gydag aelodau benywaidd.  Mae nifer yn mynd i’r afael â phynciau sy’n berthnasol i lawer o ferched, yn amrywio o arallgyfeirio a chynlluniau ynni amgen i fentrau twristiaeth a gwaith papur fferm.

“Mae nifer o grwpiau Agrisgôp yn llwyddo i gadw mewn cysylltiad yn ‘ddigidol’ ar hyn o bryd, sy’n hwb mawr i forâl, ond mae’r rhan fwyaf hefyd yn edrych ymlaen at yr amser y gallan nhw fynd yn ôl i gyfarfod eraill yn bersonol, cyfarfod arbenigwyr yn y sector i’w cynghori a gallu ymweld â modelau busnes llwyddiannus eraill,” meddai Mrs Williams.

Mae tîm mentora Cyswllt Ffermio yn cynnwys 12 o fentoriaid benywaidd, pob un yn meddu ar arbenigedd yn seiliedig ar eu sgiliau a’u profiad. Gall busnesau cofrestredig wneud cais am hyd at  15  awr o gymorth mentora cyfrinachol un-i-un dros y ffôn neu’n ddigidol.  Mae’r pynciau sydd ar gael yn cynnwys, er enghraifft , rheoli a chynllunio busnes, mentrau ar y cyd, datblygiad personol, cynllunio ar gyfer olyniaeth, mentrau arallgyfeirio, meincnodi, iechyd a diogelwch fferm ac iechyd a lles anifeiliaid.

“Dros lawer o flynyddoedd, a thrwy lawer o wahanol wasanaethau ac ymgyrchoedd, rydym wedi bod yn rhoi cyfle i ferched ddatblygu eu potensial a chyfrannu at y cyfleoedd niferus sy’n bodoli o fewn y busnesau ffermio, bwyd a choedwigaeth a hefyd o fewn eu cymunedau gwledig ehangach.”

“Er bod amaethyddiaeth yn dal i gael ei ystyried yn sector gwrywaidd yn bennaf, mae merched yn chwarae rôl ganolog yn y gwaith o ddatblygu, moderneiddio a phroffesiynoldeb nifer o fusnesau ffermio yn y DU, a gall Cyswllt Ffermio eu cefnogi yn hyn o beth,” meddai. Mrs. Williams.

‘Cadwch y dyddiadau’ dydd Llun 15 Mehefin – dydd Sadwrn 20 Mehefin. Bydd ymgyrch flynyddol merched mewn amaeth Cyswllt Ffermio yn cael ei chynnal ‘o bell’ eleni gydag wythnos o weithgareddau ar-lein, digidol ac un i un ‘dros y ffôn’. Am wybodaeth bellach ewch i www.llyw.cymru/cyswlltffermio.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

%d bloggers like this: