04/23/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Dadl gyntaf erioed ar annibyniaeth i Gymru yn Senedd

DYLAI’r grym i gynnal refferendwm annibyniaeth gael ei ddatganoli i Gymru, medd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS.

Fe fydd Plaid Cymru yn arwain y ddadl gyntaf erioed ar annibyniaeth Cymru yn y Senedd heddiw.

Cofnododd yr arolwg barn diweddaraf gefnogaeth ar annibyniaeth i Gymru ar 25% – cynnydd o +4 ers mis Ionawr.

Yn y cyfamser mae cefnogaeth i annibyniaeth yn yr Alban ar 54% ar hyn o bryd tra bod 45.4% yng ngogledd Iwerddon a 73.1% yng Ngweriniaeth Iwerddon am weld Iwerddon unedig.

Dywedodd Adam Price, fod Cymru wedi “profi ei hun” trwy ei hagwedd annibynnol tuag at argyfwng y Coronafeirws ond rhybuddiodd rhag dychwelyd i’r “status-quo” oedd wedi “methu Cymru”.

Dywedodd Mr Price fod y DG wedi gadael Cymru i lawr trwy danfuddsoddi ac y gallai annibyniaeth i Gymru fod yn “rym” i gyfnewid “gwleidyddiaeth cyntefig San Steffan” am “wleidyddiaeth o obaith, gofal a chymuned”  mewn Cymru annibynnol.

Dim ond trwy Lywodraeth Plaid Cymru y byddai Cymru yn sicrhau ei hannibyniaeth. dywedodd Adam Price.

“Mae Cymru wedi profi ei hun yn ystod argyfwng y Coronafeirws trwy weithredu’n annibynnol i amddiffyn ein dinasyddion rhag llanast ac anaeddfedrwydd Llywodraeth San Steffan.

“Wrth inni ddod allan o’r argyfwng hwn, ni allwn ddychwelyd i’r ‘status quo’. Mae’r status quo wedi methu Cymru. Mae tanfuddsoddi a fformiwla ariannu annheg wrth galon yr undeb anghyfartal hwn o addewidion gwag – sy’n cael ei arwain ar hyn o bryd gan y Torïaid yn San Steffan ond sydd hefyd yn cael ei amddiffyn gan Lafur trwy eu cefnogaeth i’r system bresennol.

“Yn y cyfamser, mae cefnogaeth i annibyniaeth Cymru ar gynnydd ac mae pobl Cymru yn deffro i’r syniad bod ffordd arall, dyfodol arall, dewis arall. Ac mae’r dewis hwnnw yn eiddo yn llwyr i Gymru.

“Dyna pam rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i geisio’r hawl gyfansoddiadol i ganiatáu i’r Senedd ddeddfu yn ystod y tymor nesaf i gynnal refferendwm ar annibyniaeth.

“Gall annibyniaeth i Gymru fod yn rym er gwell. Grym i wrthod gwleidyddiaeth ynysig a chyntefig San Steffan ac yn hytrach cofleidio gwleidyddiaeth o obaith, gofal a chymuned yn ein Cymru annibynnol newydd ni – fyddai’n sefyll yn dal ymhlith cenhedloedd eraill y byd.

“Mae’n hen bryd newid a dim ond trwy Lywodraeth Plaid Cymru y gellir ennill y newid hwnnw, a’n hannibyniaeth.

%d bloggers like this: