04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Dadorchuddio cofeb Save Our Sands ym Mharc Gwledig Penbre

MAE cofeb wedi’i dadorchuddio ym Mharc Gwledig Pen-bre i goffáu ymgyrch galed i achub traeth Pen-bre at ddefnydd y cyhoedd.

Rhwng 1969 a 1971, lansiwyd ymgyrch Save Our Sands gan y gymuned leol yn erbyn cynlluniau’r Weinyddiaeth Amddiffyn i roi cromen saethu a chanolfan profi taflegrau yn yr ardal.

Bellach, 50 mlynedd yn ddiweddarach, i anrhydeddu pawb a fu’n brwydro i ddiogelu’r draethlin i genedlaethau’r dyfodol ei mwynhau, mae saith carreg sy’n sefyll, gan gynrychioli’r grwpiau unigol a fu’n brwydro a saith milltir traeth Cefn Sidan, wedi’u codi yn y parc.

Mae hefyd yn cynnwys plac sy’n adrodd hanes yr ymgyrch a pham y crëwyd y parc gwledig.

Roedd ymgyrchwyr a’u ffrindiau a’u teuluoedd wedi bod yn bryderus y byddai hanes y frwydr fawr yn cael ei anghofio a dechreuasant godi arian drwy ddigwyddiadau amrywiol ar gyfer cofeb barhaol.

Dywedodd y grŵp, a elwid gynt yn SOS@50 (fe’i diddymwyd yn ffurfiol ym mis Awst 2019): “Ni fyddai Parc Gwledig Pen-bre yn bodoli fel rydym yn ei adnabod heb yr ymgyrch hanesyddol a chaled hon ledled yr ardal; byddai 15,000 erw o dir i gyfeiriad y môr o’r rheilffordd rhwng Pen-bre a Chydweli wedi dod yn gromen saethu a chanolfan profi taflegrau, gan wahardd gweithgareddau hamdden ar hyd y draethlin rhwng arfordir Gŵyr a Dinbych-y-pysgod.

“Heb y frwydr aruthrol yn erbyn llywodraeth y cyfnod a’r Weinyddiaeth Amddiffyn, byddem wedi bod yn byw – ac, mae’n debyg, yn parhau i fod yn byw – mewn amgylchedd gwahanol iawn i’r amgylchedd y mae’n fraint i ni ei fwynhau heddiw.”

Mae Parc Gwledig Pen-bre hefyd wedi lansio Llwybr Hanesyddol Realiti Estynedig sy’n mynd â chi’n ôl i glywed popeth am yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd. I’w lawrlwytho, chwiliwch am ‘Llwybr Hanesyddol Pen-bre’ yn yr ‘App Store’ ar gyfer iphone neu ‘Google Store’ ar gyfer ffôn android.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

“Rydym yn hynod ffodus o gael Parc Gwledig Pen-bre yma yn Sir Gaerfyrddin. Gyda’i 500 erw o goetiroedd gogoneddus i’w harchwilio, saith milltir o draeth tywodlyd euraidd a llawer o weithgareddau i’r teulu i gyd eu mwynhau, mae’n ddiwrnod perffaith allan. Ond mae mor bwysig ein bod yn cofio hanes y parc a’r holl bobl a fu’n brwydro i achub ein traeth oherwydd, hebddynt, ni fyddai gennym y parc rydym yn ei adnabod a’i garu heddiw. Rwy’n falch iawn bod y gofeb hon wedi’i gosod i adrodd yr hanes a’r fuddugoliaeth anhygoel.”

%d bloggers like this: