MAE plac Cymraeg wedi’i ddadorchuddio ym Man Geni Dylan Thomas,
yn yr Uplands, Abertawe. Cyn Archdderwydd Cymru, T. James Jones
dadorchuddiwyd y plac, wedi awgrymu y syniad yn y lle cyntaf.
Dros y blynyddoedd y mae wedi cyfieithu llawer o weithiau Dylan i’r Gymraeg.
Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd:
‘Dw i’n credu drwy osod plac Cymraeg ochr yn ochr â’r Saesneg
bydd yn fodd o bwysleisio’r Cymreictod cynhenid sy’n treiddio
trwy ei greadigrwydd.’
Darllenodd disgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe T. James Jones’
cyfieithiad o The Hunchback in the Park gan Dylan yn ogystal â detholiadau o’i gyfieithiad o Under Milk Wood.
Arweiniwyd y digwyddiad gan Geoff Haden a adnewyddodd ac adferodd y tŷ i yr arddull Edwardaidd sydd ynddi heddiw, a’r awdur a’r darlledwr Alun Gibbard sy’n gweithio gyda Geoff yn y tŷ.
Ganed Dylan Thomas yn 5 Cwmdonkin Drive a bu’n byw yno am 23 mlynedd, gan ysgrifennu’r rhan fwyaf o’i waith yn ei ystafell wely fechan.
Dros y ddegawd neu ddwy ddiwethaf mae man geni Dylan wedi dod yn ganolfan atyniad i bobl o bob rhan o’r byd.
Mae’r arysgrif ar y plac Cymraeg yn dangos yr enw a ddewiswyd gan tad Dylan – ‘Glan-rhyd – enw’r fferm yn Sir Gaerfyrddin lle yr oedd perthynas agos y pregethwr a’r bardd Gwilym Marles yn byw.
Yr oedd ddiddorol gwrando ar T. James Jones yn sôn am fywyd Gwilym Marles – radical yn ei ddydd.
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m