04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Dal gyrrwr tacsi anghyfreithlon yn mynd â golffwyr adref

MAE dyn o Gaerfyrddin wedi cael ei ddal yn darparu gwasanaeth tacsi anghyfreithlon i grŵp o ddynion a oedd yn dychwelyd o daith chwarae golff ym Mhortiwgal.

Cafodd Jason Vaughan, o Rydal Mount, Tre Ioan, ei dynnu at un ochr ar yr A48 rhwng Pont Abraham a Cross Hands ym mis Hydref 2018, fel rhan o ymgyrch ar y cyd rhwng swyddogion trwyddedu Cyngor Sir Caerfyrddin a Heddlu Dyfed-Powys.

Roedd Vaughan yn gyrru Peugeot Eurobus du â marciau tacsi fel Cerbyd Hacnai, gan gynnwys sticeri drws, plât tacsi ac arwydd to tacsi.

Fodd bynnag, gan fod swyddogion trwyddedu yn ei adnabod yn barod, cadarnhawyd yn gyflym nad oedd ganddo fathodyn tacsi a oedd yn ei awdurdodi i yrru Cerbyd Hacnai trwyddedig neu gerbyd hurio preifat  – sef trosedd y cafodd ei rybuddio yn ei chylch.

Pan gafodd ei holi gan swyddogion ynglŷn â pham y cododd y saith teithiwr a oedd yn talu am eu taith o faes awyr Bryste y noson honno, dywedodd “os oes rhaid, rhaid codi’r bechgyn”. 

Mewn cyfweliad ar ôl cael ei rybuddio, cyfaddefodd Vaughan ei fod wedi cyflawni’r drosedd, gan ddweud ei fod yn meddwl y byddai’i yswiriant yn cynnwys hyn.

Cychwynnodd Cyngor Sir Caerfyrddin, fel awdurdod trwyddedu, erlyniad yn erbyn Vaughan fel unigolyn, ac yn erbyn ei fusnes JRV Cars Ltd.

Cafodd yr achos ei glywed yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Gwener, 29 Mawrth, lle cafodd ei euogfarnu yn ei absenoldeb.

Cafodd ddirwy o £750 am yrru cerbyd hurio preifat heb drwydded, £444.27 o gostau a £75 o ordal dioddefwr.

Hefyd cafodd ei gwmni, JRV Cars Ltd, ddirwy o £750, £444.27 o gostau a £75 ordal dioddefwr, am ganiatáu i yrrwr heb drwydded yrru cerbyd hurio preifat.

Cafodd y ddwy drosedd eu cyflawni o dan adran 146 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

Dywedodd y Cyng. Philip Hughes, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros orfodaeth: “Fel teithwyr sy’n talu am eu taith, dylai aelodau’r cyhoedd allu ymddiried yn llwyr mewn gwasanaethau tacsi a hurio preifat. Mae trwyddedu priodol yn sicrhau bod gyrwyr yn cael eu gwirio’n llwyr, a bod cerbydau’n addas ar gyfer y ffordd – nid yw’n dderbyniol i rywun dderbyn arian gan bobl, a’u rhoi mewn perygl, dim ond er mwyn osgoi’r broses drwyddedu briodol.

%d bloggers like this: