04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

‘Dangoswch i’r cyhoedd eich bod yn symud mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl i godi cyfyngiadau.’ annoga Plaid ar Lywodraeth Cymru

TRA’N parhau i gefnogi’r dull pwyllog o roi iechyd y cyhoedd gyntaf, mae Plaid Cymru wedi annog Llywodraeth Cymru i ‘brofi a herio’ ei chyngor ei hun fel y gall Cymru godi cyfyngiadau mor gyflym ag mor ddiogel a phosibl.

Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi adolygiad o’r cyfyngiadau yfory.

Gan gyfeirio at bryderon lles a phryderon economaidd, dywedodd Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru “argyhoeddi pobl” ei bod yn symud ymlaen mor “gyflym â phosib” yn y ffordd fwyaf diogel.

Dywedodd Mr ap Iorwerth y dylai gweinidogion fod yn profi, yn herio ac yn modelu’r cyngor gwyddonol y mae’n ei dderbyn a galwodd ar y Llywodraeth i ddarparu “map llawer cliriach” o sut y mae’n bwriadu lleddfu cyfyngiadau dros yr wythnosau nesaf.

Pwysleisiodd Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid hefyd fod trefn profi ac olrhain “cadarn, effeithiol a phellgyrhaeddol” yn hanfodol.

Ychwanegodd Gweinidog Cysgodol dros yr Economi Plaid Cymru, Helen Mary Jones AS fod yn rhaid i iechyd a lles pobl “ddod yn gyntaf” ond galwodd ar Lywodraeth Cymru i ddarparu arweiniad i fusnesau Cymru ar sut y gallant agor yn ddiogel – gan gynnwys canllawiau manwl ar gyfer sectorau penodol gan gynnwys y sectorau twristiaeth a lletygarwch.

Meddai Rhun ap Iorwerth,

“Mae ymlyniad pobl Cymru i’r cyfyngiadau wedi bod yn dda iawn, ac mae hyn wedi bod yn allweddol i gyfyngu lledaeniad yr haint a gall pob un gymryd clod am hynny. Ond wrth i amser fynd yn ei flaen, fe fydd hi’n anochel fod pobl yn dod yn gynyddol rhwystredig ac yn gweld colli anwyliaid ac yn poeni am yr elfen ariannol.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru argyhoeddi pobl ei bod yn ceisio symud ymlaen mor gyflym â phosibl, a’i bod yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau’r “normal newydd” – gan gynnwys caniatáu i fusnesau agor yn raddol ac yn ddiogel a chaniatáu mwy o hyblygrwydd i bobl dreulio amser gydag anwyliaid.

“Nid cyfaddawdu ar ddiogelwch yw hyn ond yr angen i fod yn dryolyw. Nid yw’n ymwneud ychwaith â chymharu ei hunain â’r hyn sy’n digwydd mewn unrhyw un wlad arall – gan gynnwys Lloegr. Rhaid i Gymru wneud yr hyn sy’n iawn i Gymru. Ond mae hefyd angen edrych ar beth mae tystiolaeth ryngwladol yn ei ddweud wrthym sy’n ddiogel gwneud a sicrhau fod y rhagofalon cywir ar waith – gan gynnwys trefn profi ac olrhain gadarn sy’n gweithio’n gyflym ac yn bellgyrhaeddol.

“Mae angen i weinidogion fod yn profi ac yn herio’r cyngor a gânt yn barhaus, a modelu opsiynau ar gyfer symud ymlaen, a gwneud hynny mewn ffordd mor gyhoeddus â phosibl. Nid oes unrhyw reswm pam na all y Llywodraeth ddarparu map llawer cliriach o sut y mae’n gobeithio codi cyfyngiadau yn ystod yr wythnosau nesaf.”

Ychwanegodd Helen Mary Jones MS, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru,

“Rhaid i iechyd a lles pobl ddod yn gyntaf bob amser ond ar yr un pryd mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol o effaith economaidd hyn i gyd.

“Mae busnesau Cymru yn ysu am fwy o eglurder. Dyna pam ein bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu arweiniad brys i fusnesau Cymru ar sut y gallan nhw agor yn ddiogel. Dylid hefyd rhoi arweiniad manwl i sectorau penodol gan gynnwys y sectorau twristiaeth a lletygarwch sy’n wynebu ebargofiant economaidd oherwydd yr argyfwng hwn.

%d bloggers like this: