04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Datblygiad ar lan y môr traeth Pentywyn ar gael i’w brydlesu

MAE cyfle cyffrous wedi codi i brydlesu llety gwyliau pedair seren sy’n edrych dros un o draethau mwyaf a mwyaf eiconig y DU, Traeth Pentywyn.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwahodd mynegiannau o ddiddordeb gan fuddsoddwyr i redeg y Caban – llety mewn lleoliad allweddol i dwristiaid ar lan y traeth, gyda golygfeydd panoramig o’r môr.

Mae’r datblygiad enghreifftiol, sydd wedi’i leoli ar lwybr Arfordir Cymru, yn darparu llety gwyliau pwrpasol newydd sy’n cynnwys hyd at 42 o welyau a chaffi â 76 sedd gydag opsiwn pellach i eistedd yn yr awyr agored.

Mae yna hefyd 15 o leoedd parcio a safle cyfagos ar gyfer 10 fan wersylla gyda chysylltedd wi-fi.

Mae traeth tywodlyd Pentywyn, sy’n ymestyn am 7 milltir, wedi bod yn denu ymwelwyr ers cenedlaethau.

Mae’n un o nifer fach o draethau lle gall ymwelwyr ddal i yrru car i’r tywod. Mae hefyd yn denu ymwelwyr sy’n ceisio torri record cyflymder y byd , sydd wedi defnyddio’r traeth i rasio unrhyw beth o geir, i feiciau modur i siediau.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r gyrchfan wedi elwa o waith adfywio gwerth miliynau o bunnoedd gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Mae promenâd di-draffig 500m o hyd, sy’n edrych dros y traeth ac yn rhoi mynediad rhwydd iddo, eisoes wedi’i gwblhau yn ogystal â chanolfan fasnachol (Canolfan Parry Thomas) sy’n wynebu’r traeth. Mae pob uned wedi’i gosod yn y ganolfan hon ac mae’n cynnwys busnesau llogi caiacau, hufen iâ a choffi, a bwyty Asiaidd hynod boblogaidd ar y llawr cyntaf.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu gwasanaeth sy’n cyd-fynd ag atyniadau eraill ym Mhentywyn a’r sir ehangach yn ogystal ag ychwanegu atynt. Bydd hefyd yn ychwanegu gwerth at atyniad sydd eisoes yn llwyddiannus gan gynnwys y rhai sy’n cerdded Llwybr Arfordir Cymru ac yn mynd i ddigwyddiadau rhyngwladol.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:

“Rydym wrth ein bodd ac yn llawn cyffro bod y datblygiad newydd hwn yn barod i fynd ar y farchnad. Mae’r adeilad wedi’i leoli yn un o’r cyrchfannau twristiaeth sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru a oedd yn werth dros hanner biliwn o bunnoedd i’r economi leol yn 2019. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r gyrchfan wedi elwa o waith adfywio gwerth miliynau o bunnoedd gan Gyngor Sir Caerfyrddin a bydd y datblygiad ychwanegol hwn yn tynnu sylw pawb at Bentywyn fel cyrchfan gwyliau mawr, gan gryfhau economi’r ardal ymhellach a darparu swyddi y mae mawr eu hangen.”

Mae Pentywyn yn Sir Gaerfyrddin, De-orllewin Cymru, 15 milltir i’r gorllewin o dref sirol Caerfyrddin a 15 milltir i’r dwyrain o un o’r cyrchfannau mwyaf poblogaidd i dwristiaid yn y DU, sef Dinbych-y-pysgod.

Gellir cael rhagor o fanylion am y datblygiad a gwybodaeth am sut i fynegi eich diddordeb mewn cael yr hostel ar brydles ar ein gwefan. Y dyddiad cau yw dydd Llun, 28 Mai am 5pm.

%d bloggers like this: