04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Datblygu adnodd Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu newydd gwerth £1.5m ar gyfer pobl ifanc

MAE Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod adnodd newydd i asesu anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu mewn plant yn cael ei ddatblygu.

Bydd yr adnodd pwrpasol hwn gwerth £1.5 miliwn ar gyfer Cymru yn defnyddio dull dwyieithog yn seiliedig ar dystiolaeth i nodi anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu mewn plant 0-4 blwydd 11mis.

Bydd hyn yn cynnwys asesiadau’n seiliedig ar gerrig milltir, ffactorau risg, a ffactorau amgylcheddol a fydd yn cael eu cynnal wrth gyrraedd gwahanol bwyntiau oedran, yn unol â Rhaglen Plant Iach Cymru.

Drwy adnabod plant a allai fod ag anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu yn gynnar yn mewn bywyd, bydd yr adnodd newydd yn golygu y bydd yn bosibl iddynt gael y cymorth y mae ei angen ar yr amser iawn ac oddi wrth y person iawn, er mwyn osgoi effeithiau tymor hir posibl.

Bydd amrywiaeth eang o Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar yn cael eu hyfforddi i ddefnyddio’r adnodd newydd i adnabod anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu.

Dywedodd Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Dw i wrth fy modd o allu cyhoeddi bod yr adnodd newydd hwn yn cael ei ddatblygu i’w ddefnyddio gyda phlant ieuengaf Cymru.

Mae’n hynod bwysig i Lywodraeth Cymru bod ein plant yn cael y gefnogaeth orau bosibl i’w helpu i wireddu eu potensial yn llawn, ac mae’r buddsoddiad hwn yn cefnogi’r uchelgais honno.

Drwy ddatblygu’r adnodd newydd, gallwn sicrhau bod y plant sydd â’r anghenion mwyaf yn cael eu hadnabod yn gynnar, er mwyn i’r person mwyaf priodol allu cynnig cymorth, yn y lle iawn, ar yr amser iawn.”

Mae’r cyhoeddiad hwn yn digwydd ochr yn ochr â’r cynnydd Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu ar wahân o £1,150,000 ar gyfer 2022-24, sydd wedi cael ei roi i fyrddau iechyd a chanolfannau arbenigol. Bydd hyn yn helpu i gryfhau gwasanaethau Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu a lleihau rhestrau aros.

%d bloggers like this: